News Story
Theatr Clwyd yw’r theatr gynhyrchu fwyaf toreithiog yng Nghymru, gyda mwy na 200,000 o bobl yn mynychu digwyddiadau yn ein canolfan yn Sir y Fflint bob blwyddyn.
Rydym wedi datblygu cysylltiadau cadarn â'n cymunedau, gan gyflawni gwaith gydag ysgolion a grwpiau cymunedol, gyda ffocws ar iechyd a lles drwy’r celfyddydau. Mae gennym fwy na 1,300 o deuluoedd yn cymryd rhan mewn gweithdai a gwersi wythnosol.
Bydd ein prosiect cyfalaf yn chwarae rhan fawr mewn twf economaidd rhanbarthol. Cyflwynir ein dyluniad gydag enillwyr Gwobr Sterling, Haworth Tompkins.
Bydd bwyd a diod wrth galon y cyfleusterau ar eu newydd wedd, gyda sylfaen y cwsmeriaid o ddydd i ddydd yn cynnwys mwy na 140 o gyflogeion craidd, 500 o weithwyr llawrydd, dosbarthiadau iechyd a lles, cynadleddau a digwyddiadau, a chynulleidfaoedd sinema a theatr.
Rydym yn ymchwilio i ddiddordeb gan bartneriaid sy'n rhannu ein cyffro ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni cyn unrhyw broses dendro ffurfiol. Byddwn yn cynnig taith o amgylch yr adeilad presennol ac yn egluro ac yn dangos cynlluniau o'r cyfleusterau newydd, gan gynnwys yr holl ardaloedd arlwyo.
E-bostiwch mark@kendrickhobbs.co.uk i gofrestru ar gyfer ein diwrnod agored ddydd Mawrth 15fed Tachwedd.