Theatr Clwyd a Theatr Torch yn cyhoeddi’r cast ar gyfer cynhyrchiad gafaelgar ar y cyd o’r enw Kill Thy Neighbour
See dates and times 1 Chwef 2024
News Story
Mae Theatr Clwyd a Theatr Torch yn falch iawn o gyhoeddi cast eu cyd-gynhyrchiad sydd ar ddod, Kill Thy Neighbour. Wedi’i hysgrifennu gan Lucie Lovatt a aned yn Wrecsam, Kill Thy Neighbouryw drama lawn gyntaf Lucie, comedi dywyll am gariad, llofruddiaeth a theimlo’n gaeth yn eich bywyd eich hun.
Croeso i'r pentref gyda golygfeydd gogoneddus…
Mae Caryl a Meirion wedi byw yn eu pentref cerdyn post perffaith ers blynyddoedd – yn magu teulu, yn addurno dro ar ôl tro, wrth wylio eu cymuned yn araf ddiflannu.
Nawr mae Caryl eisiau dianc, ond mae Meirion yn daer eisiau aros.
Ai teyrngarwch?
Perthyn?
Neu gyfrinach dywyll fydd yn eu cadw nhw yma am byth?
Mae rhai wynebau cyfarwydd yn dychwelyd i lwyfan Theatr Clwyd ar gyfer y cynhyrchiad hwn gan gynnwys Victoria John (Truth or Dare, Celebrated Virgins) fel Caryl a Catrin Stewart (Cat on A Hot Tin Roof) fel Seren. Mae’r lleoliad yn croesawu Jamie Redford (Emmerdale, ITV) fel Gareth, Gus Gordon (The Sandman, Netflix) fel Max a Dafydd Emyr (Danny The Champion Of The World, Theatr Sherman) fel Meirion.
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys Dylunio Setiau a Gwisgoedd: Elin Steele, Dylunio Goleuadau: Lucía Sánchez Roldán, Cyfansoddwr a Dylunio Sain: Tic Ashfield, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Ellie Rose, Cyfarwyddwr Casto: Polly Jerrold, Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Alec Reece, Dirprwy Reolwr Llwyfan: Tyla Thomas, Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Emma Hardwick.
Bydd edmygwyr Alan Ayckbourn, Tim Firth neu Chekhov, Catastrophe neu Motherland y BBC ddim eisiau colli’r ddrama gomedi dywyll hon. Mae’r sioe yn gyd-gynhyrchiad gyda Theatr Torch, wedi’i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard, sydd wedi ennill gwobrau.
Dywedodd Chelsey Gillard:
Mae Kill Thy Neighbour yn ddoniol ac yn arswydus - fy hoff gyfuniad i. Mae’n siarad am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar lawer o gymunedau yng Nghymru ac mae ganddi gymaint o galon. Rydw i’n angerddol am ysgrifennu newydd a lleisiau newydd ar ein llwyfannau ni, dyma ddrama gyntaf Lucie ac mae hi wedi’i saernïo’n hyfryd ac yn ddifyr. Mae y Torch wrth ei bodd yn gweithio ar y cyd â Theatr Clwyd i ddod â’r ddrama yma’n fyw ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ei rhannu gyda chynulleidfaoedd yn yr Wyddgrug ac yn Aberdaugleddau.
Bydd y sioe Kill Thy Neighbour yn cael ei pherfformio yn Theatr Mix, Theatr Clwyd rhwng 2 a 20 Ebrill. Cynhelir perfformiadau hygyrch ar y dyddiadau canlynol: BSL 6 a 12 Ebrill, teithiau sain-ddisgrifio a theithiau cyffwrdd 10 Ebrill a pherfformiad â sgrindeitlo 20 Ebrill. Gellir archebu lle ar wefan Theatr Clwyd www.theatrclwyd.com neu drwy ffonio 01352 344101. Cliciwch yma.
Yna cynhelir y sioe yn Theatr Torch rhwng 24 Ebrill a 4 Mai.