News Story
Bydd Theatr Clwyd yn croesawu amrywiaeth o sioeau teithiol i’w phabell yr hydref yma cyn i Mother Goose, Y Panto Roc a Rôl (23 Tachwedd – 19 Ionawr) agor yn y prif dŷ. Gyda cherddoriaeth, drama, comedi a hwyl i'r teulu, bydd rhywbeth at ddant pawb.
Dydi Shakespeare ddim wedi ysgrifennu unrhyw beth newydd ers oes, felly mae ShakeItUP wedi rhoi help llaw iddo. Mae The Improvised Shakespeare Show (30-31 Awst) yn defnyddio ei iaith, ac wedyn awgrymiadau’r gynulleidfa a’i dychymyg gorfywiog, i greu drama Shakespeare newydd sbon yn fyw ar y llwyfan, ynghyd â cherddoriaeth fyw, caneuon a digonedd o chwerthin. Yn ôl oherwydd galw poblogaidd mae Locomotive for Murder (6-7 Medi) yn dychwelyd yr hydref yma gyda dirgelwch llofruddiaeth gwbl fyrfyfyr. Gan ddefnyddio straeon ac awgrymiadau'r gynulleidfa, gwyliwch whodunnit cwbl unigryw yn cael ei pherfformio.
Fydd teuluoedd ddim eisiau colli Claytime (20 Awst) sy'n addas ar gyfer plant 3 i 6 oed, drama wedi'i gwneud â chlai, lle mae gwahoddiad i’r gynulleidfa ymuno. Mae’r Ŵyl Celfyddydau i'r Teulu (3-4 Awst) yn dychwelyd i Theatr Clwyd hefyd fis Awst eleni. Bydd y penwythnos cost isel yma i drechu pob diflastod yn llawn sioeau, gweithdai, celf a chrefft, cerddoriaeth a llawer mwy.
Mae comedi i bawb yr Hydref yma. Ymunwch â The Noise Next Door (8 Medi), lle bydd y meddyliau cyflymaf yn y byd comedi yn mynd â chi ar daith fyrfyfyr o amgylch eich syniadau rhyfeddaf a gwylltaf. Gwyliwch wrth iddyn nhw rasio drwy orymdaith amhrisiadwy o jôcs parod, golygfeydd a chaneuon, a’r cyfan yn seiliedig ar eich awgrymiadau chi. Mae’r Clwb Comedi (18 Awst/22 Medi) yn un o brif sioeau Theatr Clwyd sy’n cynnwys y sêr gorau ar y gylchdaith gomedi, gan gynnwys Jacob Nussey, Louise Young, Dan Nightingale, Dani Johns a llawer mwy. Mae Clwb Comedi Cymraeg ei iaith, Noson o Gomedi (15 Medi), yn dychwelyd y tymor yma ac mae croeso mawr i hynny gyda chomedi o fri gan Dan Thomas, gyda Caryl Burke yn cefnogi.
Mae amrywiaeth eang o gerddoriaeth ar gael y tymor yma. Bydd noson hyfryd o Acoustic Tones (4 Medi) gyda seiniau melys gan gantorion-gyfansoddwyr gwych, lle mae popeth yn cael ei bweru gan feiciau. Bydd noson o hiraeth melys a phur yng nghwmni Primary School Assembly Bangers Live! (13 Medi) wrth i ni gamu yn ôl mewn amser gydag alawon cydganu llon. Bydd sawl syrpreis cerddorol arall, mashyps edrych yn ôl ac adlewyrchu comig ar dyfu i fyny yn y 90au. Bydd pawb sy’n hoff o gerddoriaeth eisiau gweld Meinir Gwilym (21 Medi), cantores-gyfansoddwraig o Ynys Môn. Ymunwch â hi am gymysgedd unigryw o gerddoriaeth werin, Celtaidd, pop a roc. Bydd Grŵp Cymunedol Lleol, Tip Top Productions, yn cynnal noson meic agored i ddathlu theatr gerddorol! Y dalent leol orau yn canu amrywiaeth o alawon theatr gerdd clasurol a chyfoes.
Mae’r wyneb cyfarwydd, James Roland, yn dychwelyd gyda James Roland Dies At The End Of The Show (14 Medi). Stori llawn chwerthin a cherddoriaeth a llawenydd. Stori am fyw. Trydedd rhan a rhan olaf trioleg a ddechreuodd gyda Learning to Fly a Piece of Work. Mae Grist to the Mill a Red Dragonfly yn cyflwyno’r wir arwres a ysbrydolodd Mulan gan Disney i chi, yn The Ballad of Mulan (17 Medi). Mae Shôn Dale-Jones yn dychwelyd gyda’i sioe The Duke (25 Medi), sioe ddoniol ac ingol am dynged trysor teuluol a’n blaenoriaethau ni mewn byd llawn argyfwng. Bydd cefnogwyr Victoria Wood wrth eu bodd gyda Looking For Me Friend: The Music of Victoria Wood (5 Hyd). Wrth adrodd stori Victoria, mae Paulus yn datgelu ei stori ei hun. Stori gyfarwydd am blentyndod yn y 1970au a beth mae'n ei olygu i ddod o hyd i'ch llwyth. Mae’n noson o lawenydd pur yn llawn caneuon mwyaf poblogaidd Victoria, gan gynnwys yr eiconig Ballad of Barry & Freda (Let’s Do It) a’r clasur It Would Never Have Worked.
Eto i ddod yr haf yma mae cynhyrchiad Theatr Clwyd o Rope (29 Mehefin-20 Gorffennaf), drama gomig, dywyll am lofruddiaeth, pŵer a goruchafiaeth, wedi’i hysbrydoli gan drosedd real. Bydd Pedwarawd Adelphi (4 Gorff) yn ymweld â'r lleoliad am noson o gerddoriaeth hyfryd. Mae’r bardd arobryn Inua Ellams yn creu sioe unigryw, adweithiol a byrfyryr yn seiliedig ar awgrymiadau’r gynulleidfa yn Search Party (8 Gorff). Llythyr caru casáu at ddiwylliant pop a hiraeth melys ydi Fanboy (15 Gorff). Mae’r awdur-berfformiwr arobryn Joe Sellman-Leava yn archwilio ein perthynas ni â’n gorffennol a’n dyfodol ac yn gofyn pam fod gan ei genhedlaeth o gymaint o obsesiwn gyda’i phlentyndod. Ac yn olaf, camwch i fyd hynod graff bwyd, teulu a thlodi modern yn y ddrama How To Feed A Town (23 Gorff), gyda dylanwad uniongyrchol trigolion Sir y Fflint yn drwm arni.
I archebu'r rhain a llawer mwy neu i gael rhagor o fanylion cliciwch yma.