Theatr Clwyd yn cyhoeddi cast ar gyfer y ddrama drosedd Rope.
See dates and times 22 Mai 2024
News Story
Mae’n bleser gan Theatr Clwyd gyhoeddi’r cast ar gyfer ei chynhyrchiad sydd i ddod o Rope gan Patrick Hamilton (29 Mehefin - 20 Gorffennaf). Mae hon yn ddrama gomig dywyll am lofruddiaeth, pŵer ac ymdeimlad o ragoriaeth, wedi'i hysbrydoli gan drosedd go iawn.
1929. Mae dau ddyn ifanc wedi llofruddio cyd-fyfyriwr ac wedi storio’r corff mewn cist fawr.
A fyddant yn llwyddo i gelu’r cyfan?
Maen nhw'n cynnal parti ar gyfer teulu’r sawl sydd wedi’i ladd, ond mae sgwrsio ysgafn yn troi’n frwydr eiriol sy'n bygwth datgelu'r gyfrinach sydd wedi'i storio yng nghanol yr ystafell ...
Cyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr Clwyd, Francesca Goodridge (A Pretty Shitty Love):
0 Stars
Pan wnes i ddarllen Rope am y tro cyntaf, roeddwn i’n gofyn sut cafodd y stori yma am haerllugrwydd y dosbarth sy’n rheoli a dynion yn dianc rhag cael eu cosbi ei hysgrifennu yn y 1920au, pan mae'n siarad mor glir gyda'r 2020au. Wedi'i hysgrifennu ganrif cyn yr obsesiwn heddiw â phodlediadau, mae Rope yn parhau i fod yn sioe gyffro syfrdanol - heb unrhyw seibiau. Mae’r ddrama’n mynd â chynulleidfaoedd ar noson wyllt o ansicrwydd a syndod, gyda ffocws di-baid ar un gofod, un drosedd, a chelu haerllug gan ddynion sydd wedi meddwi ar feddwl eu bod yn well na phawb arall.
Mae’r cast ar gyfer y cynhyrchiad cyffrous yma’n cynnwys: Jack Hammett (The Great Gatsby, Theatr Clwyd) fel Wyndham Brandon, Chirag Benedict Lobo (Life of Pi Wyndham’s Theatre, West End),) fel Granillo, Tim Pritchett (Missing Julie, Theatr Clwyd) fel Rupert Cadell, Emily Burnett (Princess & The Hustler, Bristol Old Vic) fel Leila, Emily Pithon (Noises Off, Theatr Clwyd) fel Mrs Debenham, Rhys Warrington (The Mousetrap, St. Martins Theatre / West End) fel Kenneth Raglan, Felipe Pacheco (Metamorphosis, Frantic Assembly National Tour) fel Sabot a Keiron Self(My Family, BBC) fel Sir Johnstone Kentley.
Chirag Benedict Lobo
GranilloEmily Burnett
LeilaEmily Pithon
Mrs DebenhamRhys Warrington
Kenneth RaglanFelipe Pacheco
SabotKeiron Self
Sir Johnstone Kentley
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys Cynllunio’r Set a Gwisgoedd: Good Teeth, Cynllunio’r Goleuo: Ryan Joseph Stafford, Cyfansoddwr a Chynllunio’r Sain: Dyfan Jones, Cyfarwyddwr Symudiad: Jess Williams, Cyfarwyddwr Ymladd: Kev McCurdy, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Dena Davies, Cyfarwyddwr Castio: Polly Jerrold, Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Lizzie O’Sullivan, Dirprwy Reolwr Llwyfan: Natasha Guzel, Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Emma Hardwick.
Bydd Ropeyn cael ei pherfformio yn Theatr Mix, Theatr Clwyd rhwng 29 Mehefin a 20 Gorffennaf. Bydd perfformiadau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol: BSL 6 Gorffennaf, disgrifiadau sain a theithiau cyffwrdd 12 Gorffennaf, a pherfformiad gyda chapsiynau 18 Gorffennaf.