Theatr Clwyd yn cyhoeddi’r cast ar gyfer cynhyrchiad hudolus Constellations/Cytserau
See dates and times 8 Ebr 2024
News Story
Mae’n bleser gan Theatr Clwyd gyhoeddi’r cast ar gyfer ei chynhyrchiad sydd i ddod o sioe ryngwladol hynod lwyddiannus Nick Payne sydd wedi ennill sawl gwobr, Constellations (10 Mai - 25 Mai). Bydd y sioe yn cael ei hailddychmygu ar gyfer y Gymru fodern a'i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Cyswllt Daniel Lloyd.
Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor ddryslyd ydi'ch bywyd chi nes ei gysylltu â bywyd rhywun arall...
Mae gwenynwr a ffisegydd yn cyfarfod mewn barbeciw. Mae hi'n meddwl am fecaneg cwantwm, theori llinynnau ac amryfal fydoedd. Mae o'n meddwl am ei wenyn, ei fêl ac ecoleg.
Oes unrhyw siawns iddyn nhw syrthio mewn cariad?
Bydd Constellations yn cael ei gyflwyno mewn dwy chwaer gynhyrchiad – un yn y Saesneg gwreiddiol a’r llall am y tro cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, gyda’r cyfieithiad gan Gwawr Loader dan y teitl Cytserau (7-8 Mehefin). Fel rhaglenni teledu poblogaidd Hinterland a Keeping Faith, bydd y ddwy fersiwn yn cael eu perfformio gan yr un cast.
Dywedodd Daniel Lloyd am y cynhyrchiad:
Rydw i’n falch iawn o fod yn cyfarwyddo Constellations / Cytserau. Mae’r stori oesol yma’n gofyn cwestiynau anferth am fodolaeth ddynol ac mae’n cael ei hadrodd yn ôl, ymlaen ac i’r ochr gyda strwythur disglair o wreiddiol. Rydyn ni’n dilyn ein darpar gariadon ar draws llawer o fydysawdau amgen, lle mae eu dewisiadau nhw’n arwain at ganlyniadau cynnil a hefyd seismig.
Fel bod dynol dwyieithog sy'n bodoli o fewn dau ddiwylliant, rydw i'n aml yn teimlo fy mod i’n pontio amryfal fydysawdau! Cymraeg a Saesneg … Mae cyflwyno’r ddrama yma mewn dwy iaith yn caniatáu i ni archwilio’r teimlad hwnnw’n ddyfnach mewn cynhyrchiad i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith.
Mae cast y cynhyrchiad cyffrous yma’n cynnwys Gwenllian Higginson (Enid A Lucy, Pobol Y Cwm (S4C), Gwlar Yr Asyn (Theatr Genedlaethol Cymru) fel Marianne a Aled Pugh (Stella (SKY), Cyrano De Bergerac (Theatr Clwyd) fel Roland.
Mae'r tîm creadigol yn cynnwys Cynllunio Setiau a Gwisgoedd: Hayley Grindle, Cynllunio Goleuo: Jonathan Chan, Cyfansoddwr a Chynllunydd Sain: Dyfan Jones, Cyfarwyddwr Symudiad: Francesca Jaynes, Cyfarwyddwr Ymladd: Kaitlin Howard, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Mary Davies, Cyfarwyddwr Castio: Polly Jerrold, Rheolwr Llwyfan: Phoebe Storm.
Wedi’i rhestru fel un o’r sioeau theatr gorau i’w gweld yn y DU yn 2024 yn The Stage, mae hon yn sioe na ddylech chi ei cholli.
Bydd Constellations yn cael ei pherfformio yn Theatr Mix, Theatr Clwyd o 10 Mai-25 Mai, a Cytserau 7-8 Mehefin. Bydd perfformiadau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol: BSL 17 Mai, disgrifiad sain a theithiau cyffwrdd 22 Mai a pherfformiad gyda chapsiynau 24 Mai.