News Story
Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi’r cast ar gyfer eu perfformiad rhyngweithiol o The Great Gatsby (15 Mehefin – 27 Awst), cydgynhyrchiad gyda The Guild of Misrule. Yn dilyn perfformiad hynod lwyddiannus gyda phob tocyn wedi’i werthu yn 2018, mae’r sioe gyfranogol wych yn dychwelyd unwaith eto i Dafarn y Dolphin, yr Wyddgrug am dymor haf enfawr. Yn yr addasiad cyfranogol yma o nofel oes y jazz F Scott Fitzgerald, y gynulleidfa sydd wrth galon y cyfan.
Mae’r ugeiniau yn eu hanterth – oes o wirod anghyfreithlon a jazz cynhyrfus. Mae Jay Gatsby wedi eich gwahodd chi i un o'i bartïon enwog a dydi hwnnw ddim yn wahoddiad y byddwch chi eisiau ei wrthod. Mae’r coctels yn llifo, cerddoriaeth yn chwarae, ac mae'r parti yn ei anterth.
Yn siglo ar y llwyfan ar gyfer y cynhyrchiad hwn fydd Siobhan Bevan (hi) (The F*ck it Bucket, Netflix) fel Myrtle, Huw Blainey (fo) (War Horse, y DU a Thaith Ryngwladol gyda’r National Theatre) fel George, Jack Hammett (fo) (As Long as the Heart Beats, National Theatre Wales) fel Nick, Richard McIver (fo) (LIFE COACH, National Theatre Wales) fel Gatsby, Troy Marcus Richards (fo) (Richard II, Quandary Collective) fel Tom, Seren Vickers (hi) (Truth or Dare, Theatr Clwyd) fel Jordan a Bethan Rose Young (hi) (The Soldier’s Tale, Church Hill Theatre).
0 Stars
Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu dod â'n cynhyrchiad cyfranogol o The Great Gatsby yn ôl i Ogledd Cymru, yn dilyn ei rediad hynod lwyddiannus yn 2018. Ers hynny, mae'r sioe wedi mynd o nerth i nerth gan agor cynyrchiadau ar draws y byd, felly mae'n arbennig o gyffrous gallu croesawu cymaint o Dîm Creadigol gwreiddiol y West End yn ôl i greu'r cynhyrchiad yma sy’n gynhyrchiad mwy nodedig fyth ar gyfer 2023. Mae theatr gyfranogol yn mynd y tu hwnt i ffiniau traddodiadol y llwyfan ac yn plymio'r gynulleidfa i fyd cwbl wir mewn ffordd, felly gwisgwch eich esgidiau dawnsio ac ymunwch â ni yn y Dolphin yr haf yma i brofi hud The Great Gatsby mewn ffordd gwbl newydd.Wes Bennett-Pearce, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Theatr Clwyd.
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys: Cyfarwyddwr: Amie Burns Walker, Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Heledd Rees, Coreograffydd: Holly Beasley-Garrigan, Cyfarwyddwr Cerdd: Alex Wingfield, Cynllunydd Goleuo: Rachel Sampley, Cynllunydd Sain: Phil Grainger, Cyfarwyddwr Ymladd: Lucky 13 Action , Cyfarwyddwr Cyswllt: Fiona Kingwill, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Juliette Manon, Cyfarwyddwr Castio: Polly Jerrold, Hyfforddwr Acen a Thafodiaith: Mary Howland ac Ymgynghorydd Diogelu, Cynhwysiant a Chydsyniad: Bayley Turner, Wigs, Gwallt a Cholur: Noah Ehrhardt.
Mae’r perfformiad yn cael ei gynnal mewn deg ystafell ac ar dri llawr yn y Dolphin gyda llwybr hygyrch ar y llawr gwaelod ar gael. Cynhelir perfformiadau sain ddisgrifiad ar 5 a 28 Gorffennaf a 25 Awst. Cynhelir perfformiadau gydag iaith arwyddion ar 28 Mehefin, 22 Gorffennaf a 23 Awst.
Bydd The Great Gatsby yn cael ei pherfformio yn Nhafarn y Dolphin, Stryd Fawr yr Wyddgrug. Archebwch Nawr.