News Story
Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi heddiw bod y gwneuthurwyr theatr o fri o Gymru, Francesca Goodridge a Daniel Lloyd, wedi’u penodi’n Gyfarwyddwyr Cyswllt newydd dros dro y sefydliad, gan ddod â phrofiad a gwybodaeth greadigol ychwanegol i’r sefydliad yn Sir y Fflint
Francesca oedd un o’r rhai cyntaf i dderbyn Hyfforddeiaeth Carne i Gyfarwyddwyr yng Nghymru. Mae ei chynyrchiadau yn Theatr Clwyd yn cynnwys cyfarwyddo A Pretty Shitty Love a gweithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar The Famous Five: A New Musical. Hyfforddodd hefyd ar Gwrs Cyfarwyddwyr y National Theatre.
Mae Daniel Lloyd yn berfformiwr rheolaidd a phoblogaidd ym mhantomeim Theatr Clwyd a bu’n Gyfarwyddwr Cyswllt ar Robin Hood
eleni, yn ogystal a chyfarwyddo ar gyfer Rondo a Theatr na n’Og.
Mae'r ddau wedi cydweithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys sioe gerdd newydd sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd yn Theatr Clwyd.
Dywedodd Francesca Goodridge a Daniel Lloyd am eu penodiad:
Ar ôl bod yn ymwneud â Theatr Clwyd mewn amrywiaeth o brosiectau a chynyrchiadau dros y blynyddoedd, rydyn ni’n falch iawn o fod yn ymuno â’r sefydliad fel Cyfarwyddwyr Cyswllt. Fe fyddwn ni’n ymhyfrydu yn y cyfle i ddatblygu ein lleisiau fel partneriaeth greadigol ac fel unigolion yn ogystal â gwasanaethu’r llu o raglenni a chynyrchiadau hanfodol sydd eisoes ar y gweill. Mae’n amser hynod gyffrous i ymuno â’r theatr, ar adeg pan mae’r sefydliad yn cofleidio newid newydd ac addawol gyda’i raglen ailddatblygu cyfalaf enfawr a Chyfarwyddwr Artistig newydd ar y gorwel.
Gyda’n gilydd rydyn ni eisoes yn gweithio’n angerddol tuag at nifer o brosiectau cyffrous newydd yn y dyfodol, gan gynnwys y pantomeim eleni, Sleeping Beauty, a fydd, am flwyddyn yn unig, yn cael ei gynnal yn Theatr y Babell Fawr. Bydd hwn yn brofiad newydd sbon i’n cynulleidfaoedd ni – gan ddod â nhw’n agosach at y digwydd nag erioed o’r blaen a chynnig popeth mae ein cefnogwyr pantomeim ni’n ei garu mewn lleoliad newydd deinamig a chyffrous.
Croesawodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford y ddeuawd gan ddweud:
Rydyn ni’n falch iawn o gael Fran a Dan yn ymuno â ni fel Cyfarwyddwyr Cyswllt. Mae’r ddau yn grëwyr theatr gwych, ac mae ganddyn nhw bartneriaeth waith gref y tu allan i’w hymwneud â Theatr Clwyd. Mae penodi Fran a Dan yn golygu ein bod ni’n parhau i ddatblygu cyfleoedd hyfforddi ac arwain ar gyfer crëwyr theatr o Gymru, a bod gennym rywfaint o barhad artistig wrth i ni gamu drwy benodiad Cyfarwyddwr Artistig newydd. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda'r ddau yn eu swyddi newydd.
Bydd y ddau’n canolbwyntio ar gefnogi a datblygu gwaith artistig Theatr Clwyd, gan gynnwys gwaith allgymorth cymunedol sydd wedi ennill gwobrau yn ogystal ag arwain ar brosiectau penodol.