Theatr Clwyd yn cyhoeddi ocsiwn codi arian gyda gwobrau gwych i bawb.
See dates and times 24 Tach 2023
News Story
Mae Theatr Clwyd yn cyflwyno ocsiwn ar-lein yn llawn profiadau anhygoel, danteithion bendigedig a gwobrau gwych, fel rhan o ymgyrch codi arian Goleuo Theatr Clwyd y lleoliad gyda phob rhodd yn cael ei dyblu.
Mae’r ocsiwn dawel yn fyw bellach a bydd yn parhau tan 2 Rhagfyr. Yn agored i bawb, mae rhai o’r profiadau bythgofiadwy a’r eitemau arbennig sydd ar gael yn cynnwys:
- Dau Docyn Lletygarwch i weld Bruce Springsteen yn Stadiwm Principality, Caerdydd (5 Mai 2024)
- Dau docyn lletygarwch ar gyfer rownd derfynol Cymru yn Ymgyrch y Chwe Gwlad 2024 mewn gornest yn erbyn yr Eidfal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd. (16 Mawrth 2024).
- Gwisg Gwrach wedi’i gwneud â llaw o His Dark Materials
- Te Prynhawn yn Y Ritz, Llundain
- Pâr o seddi o sinema Theatr Clwyd
- Parti Preifat i 25 o westeion yn Waffle Box, Yr Wyddgrug
- Gwisg Great Gatsby wedi’i gwneud â llaw yn arbennig ar eich cyfer chi gan dîm gwisgoedd Theatr Clwyd.
Yn barod ar gyfer y Nadolig, dyma ffordd wych o gefnogi eich theatr leol a chael yr anrheg berffaith i chi'ch hun neu'r person hwnnw sydd â phopeth. I ddarganfod mwy ac i wneud cais ar-lein cliciwch yma.
Mae’r holl gynigion buddugol yn cefnogi gwaith ailddatblygu cyfalaf Theatr Clwyd yn uniongyrchol.
Mae’r ocsiwn dawel yn rhan o wythnos gyfan o weithgareddau gyda Theatr Clwyd, gan gynnwys digwyddiad unigryw yn Neuadd Brynkinalt gyda swper ac adloniant ar 2 Rhagfyr. Bydd y digwyddiad yma’n cynnwys perfformiadau gan ffefrynnau Theatr Clwyd, Catrin Aaron (Little Voice) a Caitlin Drake (Pavilion), bwyd o safon uchel gan y cogydd uchel ei barch o Gymru, Dai Davies, a chyfle i sicrhau un o dair prif wobr fydd yn rhan o ocsiwn fyw yn y digwyddiad sy’n cael ei arwain gan arwerthwr Flog It! ar y BBC, Adam Partridge. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar ôl. I archebu cliciwch yma.