Theatr Clwyd yn penodi Suzanne Bell i arwain hwb datblygiad proffesiynol Cymru.
See dates and times 6 Tach 2024
News Story
Mae Suzanne Bell wedi cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, stiwdio genedlaethol i Gymru i ddatblygu a chefnogi gwneuthurwyr theatr proffesiynol ym mhob cam o’u gyrfa. Mae hyn yn dilyn proses recriwtio helaeth yn ystod yr haf.
Mae Suzanne Bell yn Ddramodydd arobryn mewn ysgrifennu newydd gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad proffesiynol yn cefnogi datblygiad artistiaid ledled y DU ac yn rhyngwladol. Ymhlith ei gwobrau mae Gwobr Kenneth Tynan am Ragoriaeth mewn Dramayddiaeth a Gwobr Olwen Wymark am Anogaeth yn y Theatr.
0 Stars
Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Theatr Clwyd yn ystod y cyfnod hollbwysig yma yn ei hanes ac yn gyffrous am gael yr anrhydedd a’r fraint o weithio gydag artistiaid o Gymru a’u cefnogi. Bydd Stiwdio Clwyd yn drawsnewidiol wrth gefnogi artistiaid, pobl greadigol a gwneuthurwyr theatr drwy gydol eu gyrfaoedd ac ar draws disgyblaethau.Dywedodd Suzanne am ei phenodiad.
Bydd Stiwido Clwyd yn cofleidio rhaglenni datblygu presennol gan gynnwys cyfnodau preswyl i awduron a chwmnïau, cyfleoedd cysgodi gyda thâl a chynlluniau hyfforddi ar gyfer cyfarwyddwyr a dylunwyr, ond hefyd yn datblygu rhaglenni newydd yn seiliedig ar angen ac ar draws disgyblaethau creu theatr. Yn ystod naw mis cyntaf y rôl bydd Suzanne yn parhau i ymgynghori a siapio rhaglenni gyda ac ar gyfer gwneuthurwyr theatr. Bydd rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi yn 2025.
Mae egwyddorion sylfaenol Stiwdio Clwyd yn cynnwys pob gwneuthurwr theatr yn cael tâl am eu hamser datblygiad proffesiynol, a bydd y rhaglenni’n cael eu cyflwyno ‘heb ddisgwyl unrhyw ddychwelyd’. Ni fydd Stiwdio Clwyd yn cael ei dylunio i fod yn llinell gynhyrchu ar gyfer cynyrchiadau mewnol Theatr Clwyd ond yn hytrach mae’n fuddsoddiad hirdymor yng ngwneuthurwyr theatr Cymru.
Bydd gwaith Stiwdio Clwyd yn cael ei gefnogi a'i wella gan y cyfleusterau wedi'u hailddatblygu yn Theatr Clwyd wrth iddynt gyrraedd 9 mis olaf eu prosiect cyfalaf. Mae hyn yn cynnwys gofod newydd sbon o’r enw ‘Ystafell Awduron Emlyn Williams’ ar ôl yr awdur o Gymru sydd wedi ennill llawer iawn o fri, cyfleusterau ymarfer newydd a gofod stiwdio ddatblygu, yn ogystal â gweithdai gwisgoedd, adeiladu golygfeydd, goleuadau, celf golygfaol a phrops i gyd ar y safle.
The Director of Stiwdio Clwyd position has been funded by the John Ellerman Foundation who support work of the highest quality that is nationally significant, with new and original work at its heart. Funding for Stiwdio Clwyd has also come from the Noel Coward Foundation, awarding grants to educational and professional development projects across the performing arts.
Datblygwyd y Stiwdio yn dilyn ymchwil gyda sylfaenwyr ac arweinwyr dilynol y National Theatre Studio, ac arweinwyr eraill rhaglenni datblygu a chanolfannau datblygu cenedlaethol yn rhyngwladol, yn ogystal â mwy na 70 o wneuthurwyr theatr o bob disgyblaeth ac mewn gwahanol gamau yn eu gyrfaoedd.