Theatr Clwyd yn dathlu’r gymuned leol gyda seremoni capsiwl amser
See dates and times 18 Mai 2023
News Story
Yr wythnos ddiwethaf fe ddathlodd Theatr Clwyd y gymuned leol gyda trwy gladdu capsiwl amser yn llawn atgofion. Yn ystod y digwyddiad bu mwy na 200 o westeion yn mwynhau amrywiaeth o berfformiadau. Perfformiodd grwpiau cymunedol Theatr Clwyd sioe theatr ensemble, disgyblion ac athrawon o Gerddoriaeth Theatr Clwyd sydd yn dysgu cerddoriaeth i blant ar draws ysgolion Sir y Fflint, a chor Ysgol Maes Garmon.
Roedd y capsiwl amser yn cynnwys amrywiaeth o atgofion hyfryd o’r 47 mlynedd y mae’r Theatr wedi bod yn gartref i weithgarwch ymgysylltu cymunedol, gan gynnwys llythyrau, cerddi a ffotograffau, yn ogystal â chyfraniadau ar y diwrnod gan y rhai oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Cafodd ei gladdu ar y safle a fydd yn ardd synhwyraidd a therapiwtig newydd Theatr Clwyd, gyda stamp dyddiad i’w agor yn 2075.
Bydd y gwaith ailddatblygu cyfalaf mawr yn trawsnewid yr adeilad 47 oed nad yw bellach yn addas i’w ddiben yn ganolfan ddinesig werdd, gynaliadwy a chroesawgar a fydd yn dod yn gyrchfan ar draws gogledd Cymru a phellach. Bydd gallu’r Cwmni i wasanaethu ei gymuned leol yn cynyddu gyda hybiau pobl ifanc arbenigol, ardaloedd chwarae dan do ac yn yr awyr agored, ystafelloedd iechyd a lles a mannau cymunedol i bawb eu defnyddio a’u mwynhau.
Roedd y Cyfarwyddwr Gweithredol Liam Evans-Ford yn ogystal a'r Cyfarwyddwr Artistig newydd Kate Wasserberg ymysg y rhai a oedd yn bresennol.
0 Stars
Am ddiwrnod arbennig. Cyfle i nodi’r gwaith adeiladu mawr ar y safle, i gyhoeddi ein hymgyrch arian cyhoeddus, ond yn bennaf oll i gydnabod ein cymunedau a sut rydym yn gweithio gyda, ac ar gyfer, cynifer yng Ngogledd Cymru. Mae’r prosiect hwn yn dasg enfawr, ac wedi denu buddsoddiad preifat sylweddol i’r ardal, ond rhaid cofio bob amser pam ein bod yn cyflawni’r prosiect hwn – mae ar gyfer ein cymunedau – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.Dywedodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford.
Mae'r prosiect wedi derbyn cymorth ariannol sylweddol gan amrywiaeth o ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyllidwyr preifat. Mae’r lleoliad nawr yn gofyn i’r gymuned leol oes posib iddyn nhw hefyd ‘chwarae eu rhan’, drwy enwi sedd, drych neu deilsen, trefnu gweithgarwch codi arian neu gyfrannu at y goeden chwarae eich rhan newydd yn ardal cyntedd dros dro’r theatr.
0 Stars
Roeddwn i wrth fy modd yn mynychu’r achlysur cofiadwy yma yn Theatr Clwyd ar gyfer fy nigwyddiad swyddogol cyntaf i fel Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint. Mae ailddatblygu Theatr Clwyd yn gyfle cyffrous a fydd o fudd sylweddol i’r gymuned leol ac rydw i'n edrych ymlaen at weld ei gwblhau.Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Gladys Healey.
0 Stars
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi'r ailddatblygiad cyfalaf yma. Mae Theatr Clwyd yn chwarae rhan hollbwysig yn seilwaith y celfyddydau ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n sefydliad celfyddydol sydd wedi’i wreiddio yn ei gymuned ond sy’n cynhyrchu gwaith o berthnasedd cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd ein cefnogaeth ni ar ffurf cyllid cyfalaf yn helpu i drawsnewid y theatr a’r gofod blaen tŷ er mwyn gwella profiad yr ymwelydd yn sylweddol.Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cyngor Celfyddydau Cymru, Richard Nicholls.
Mae buddsoddi yn Theatr Clwyd yn cyflawni ymrwymiad allweddol o fewn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ac yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn y celfyddydau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £23.5m dros dair blynedd i gefnogi’r prosiect, yn ogystal â’r £3m a ddyfarnwyd yn 21-22.
I gael gwybod mwy am ailddatblygiad Theatr Clwyd ewch i www.theatrclwyd.com/cy/play-your-part neu cysylltwch â Claire Pilsbury, Pennaeth Datblygu, ar claire.pilsbury@theatrclwyd.com