Gŵyl Celfyddydau i’r Teulu Theatr Clwyd yn dychwelyd yr haf yma.
See dates and times 30 Mai 2024
News Story
Mae Gŵyl Celfyddydau i’r Teulu boblogaidd Theatr Clwyd yn dychwelyd am benwythnos llawn gweithgareddau hwyliog i’r teulu i drechu pob diflastod. Bydd yr Ŵyl Celfyddydau i’r Teulu cost isel yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 3 a dydd Sul 4 Awst yn Theatr Clwyd. Bydd y penwythnos yn llawn perfformiadau, sesiynau adrodd straeon, cerddoriaeth, disgos distaw, celf a chrefft, paentio wynebau a mwy.
Bydd angen archebu lle ar gyfer rhai gweithgareddau ond bydd eraill yn sesiynau galw heibio y mae posib eu cynnal ar unrhyw adeg yn ystod y penwythnos.
Mae rhai o'r digwyddiadau y bydd posib eu harchebu yn cynnwys Mr Toad, ail-gread newydd ffrwydrol o Wind in the Willows gan Wise Owl Theatre. Yn addas ar gyfer 3+ oed mae'r sioe yn cynnwys caneuon doniol, jôcs ffraeth a phypedwaith hardd ac yn cynnwys dehongliad BSL. Gyda Toad Hall dan fygythiad gan y Vin Weasel slei, gallai ysfa Toad am gyflymder ei roi mewn helynt mawr! Rhaid i Toad ddarganfod beth mae bod yn arwr wir yn ei olygu.
Bydd The Flying Bedroom yn mynd â chi ar antur i greu cerddoriaeth, creu theatr ac adrodd straeon. Bydd yn cyfuno technoleg cerddoriaeth a phypedwaith i greu straeon a cherddoriaeth. Bydd y rhannu yma’n cynnwys teuluoedd yng nghamau cynnar datblygu sioe ryngweithiol a chyfranogol newydd, ar gyfer plant 7 i 11 oed. Bydd rhai perfformiadau’n cynnwys dehongliad BSL.
Fe fydd pawb sy’n hoff o gomedi eisiau gweld y Clwb Comedi i Blant. Ymunwch â rhai o gomedïwyr gorau’r DU a’r byd i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau, gan roi adloniant i bawb sy’n chwech oed ac yn hŷn.
Ymunwch â thîm Theatr Clwyd am weithdai hwyliog. Cyfle i ddatgloi eich creadigrwydd ac archwilio dawns neu ddrama mewn amgylchedd diogel. Gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, a chreu rhywbeth anhygoel. Addas ar gyfer plant 5 i 11 oed. Bydd gweithdai Cerddoriaeth yn cael eu cynnal gan dîm Cerddoriaeth Theatr Clwyd hefyd ac mae croeso i bob oedran.
Mae’r ŵyl wedi cael ei chefnogi gan y Fenter Iaith a byddant yn cynnal disgo distaw galw heibio, gweithdy iwcalili, ac ymweliad gan Magi Ann!