News Story
Mae Theatr Clwyd yn chwilio am wyth o bobl ifanc ar gyfer ei Bwrdd Cynghori Ieuenctid newydd. Mae pobl ifanc yn rhan hanfodol o Theatr Clwyd, ac maen nhw’n chwilio am leisiau ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y sefydliad.
Mae’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn grŵp o bobl ifanc 11 i 25 oed a fydd yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn i drafod a breuddwydio gyda’i gilydd am sut ddyfodol sydd i Theatr Clwyd. Bydd Cadeirydd ac Is Gadeirydd ar gyfer y bwrdd a bydd y ddau berson yma hefyd yn mynychu Bwrdd Ymddiriedolwyr llawn Theatr Clwyd. Mae Theatr Clwyd yn chwilio am bobl ifanc o ystod amrywiol o oedrannau, rhywiau, cefndiroedd ac ethnigrwydd. Maen nhw eisiau gwneud yn siŵr bod lleisiau pawb yn cael eu clywed, a bod gweithredu ynghylch hynny, pwy bynnag ydych chi, beth bynnag yw eich cefndir!
0 Stars
Mae pobl ifanc wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae angen eu llais nhw i’n gyrru ni ymlaen. Gyda’n hadeilad newydd ar y gweill rydyn ni eisiau i’r Bwrdd Ieuenctid ein herio ni a’n cynghori ar yr amser hynod gyffrous yma. Rydyn ni hefyd eisiau rhoi cipolwg i bobl ifanc ar sut mae byd y theatr yn gweithio a gweld sut gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrth ein gilydd.Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd
0 Stars
Fe fydda’ i a Kate, ein Cyfarwyddwr Artistig newydd, yn mynychu’r cyfarfodydd yma o’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid, yn gwrando ar eich barn chi, yr hyn rydych chi eisiau, a’ch barn chi ar yr hyn y gallwn ni ei wneud yn well. Wedyn, gyda chi, fe fyddwn yn rhoi cynllun ar waith o ran sut i wireddu eich syniadau chi. Fe fyddwn hefyd yn cefnogi’r Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd i fynychu’r cyfarfodydd ymddiriedolwyr, ac i chi leisio’ch barn ar ran y bwrdd ieuenctid. Rydyn ni'n hoffi'r hyn rydyn ni'n ei wneud ac eisiau i chi siapio'r penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud wrth i ni i gyd barhau i fwynhau Theatr Clwyd gyda'n gilydd!Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd.
Os oes gennych chi angerdd dros unrhyw agwedd o’r celfyddydau a Theatr Clwyd neu’n adnabod rhywun rhwng 11 a 25 oed sy’n teimlo felly, mae’r lleoliad eisiau clywed gennych chi. I gael gwybod mwy am y cyfle cyffrous yma ac i weld y meini prawf llawn ewch i cliciwch yma.Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Gwener 7 Gorffenaf.