Theatr Clwyd yn codi'r llen ar wneud penderfyniadau ar gyfer gweithwyr llawrydd
See dates and times 8 Tach 2022
News Story
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi enwau pum cyfranogwr cyntaf y cynllun Llyfr Agored newydd ar gyfer gweithwyr llawrydd. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle â thâl i weithwyr llawrydd byd y theatr i fynd y tu ôl i'r llenni a chael gwybodaeth hanfodol am brosesau, strategaeth, rheolaeth a phenderfyniadau sefydliad celfyddydol mawr
Mae’r cyfle datblygiad proffesiynol cyflogedig yn galluogi pob gweithiwr llawrydd i dreulio 15 diwrnod gyda’r theatr, gan gysgodi’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford, a chael amser gyda’r uwch dîm arwain llawn – o gynyrchiadau a chynhyrchu, i godi arian a chyfathrebu. Mae’r cyfranogwyr yn mynychu cyfarfodydd bwrdd, ariannu, cynhyrchu, rhaglennu ac uwch reolwyr yn ogystal â threulio amser gyda phob adran, gan gynnwys ymuno â thimau cynhyrchu yn ystod yr wythnos dechnoleg, cymryd rhan mewn gweithdai Ymgysylltu Creadigol, a mynychu ymweliadau safle’r prosiect ailddatblygu cyfalaf parhaus gyda’r tîm Gweithrediadau. Y cyfranogwyr fydd yn penderfynu pryd a sut cwblheir y 15 diwrnod er mwyn bodloni eu hamserlen lawrydd heriol a chyfnewidiol.
0 Stars
Fel gyda’r rhan fwyaf o grëwyr theatr, mae’r rhan fwyaf o fy ngyrfa i wedi cael ei threulio fel gweithiwr llawrydd, ac felly rydw i’n ymwybodol iawn o gyn lleied roeddwn i’n ei wybod am redeg theatrau nes i mi ddechrau cynhyrchu a gweithio ‘ar y tu mewn’. Mae hwn yn gynllun sy’n ceisio ymateb, mewn ffordd ystyrlon, i’r diffyg dirnadaeth, dealltwriaeth a gwybodaeth sydd gan weithwyr llawrydd am redeg ein prif sefydliadau celfyddydol ni. Mae wedi cael ei ddatblygu gan weithiwr llawrydd, gyda’r adborth a’r syniadau gan eraill, a’i siapio ar gyfer pob unigolyn sy’n ymwneud â’r cynllun. Ein gwaith ni yn Theatr Clwyd yn syml yw bod yn agored.Dywedodd Liam Evans-Ford, y Cyfarwyddwr Gweithredol
Lansiwyd y cynllun mewn ymateb i weithdai ar gyfer gweithwyr llawrydd a gynhaliwyd gennym ni yn ystod y pandemig. Cysylltodd Peter Mooney, actor-gerddor sydd wedi perfformio yn ein panto Roc a Rôl, â Liam ar ôl ei glywed yn siarad am gyllid y theatr yn un o’r sesiynau yma. Roedd cyllid o Gronfa Datblygu Arfer Creadigol Arts Council England yn gyfle i Peter dreulio 30 diwrnod yn cysgodi Liam a’r tîm ehangach.
0 Stars
Gan weithio gyda Liam a'r tîm, doeddwn i ddim jyst yn cael gofyn yr holl gwestiynau y gallwn i feddwl amdanyn nhw – roeddwn i’n cael fy annog i wneud hynny. Fe wnes i blymio i mewn i bopeth – o strategaethau rhaglennu Theatr Clwyd, i’w llu o brosiectau cymunedol, a sut byddan nhw’n ariannu ailddatblygiad cyfalaf uchelgeisiol eu hadeilad newydd. Roedd cael croeso i fy chwilfrydedd fel gweithiwr llawrydd yn y ffordd yma yn brofiad cadarnhaol tu hwnt. Ar ôl 2 flynedd o gyfnod clo, roedd yn amlwg pa mor eithriadol fuddiol fyddai’r cynllun yma i’n cymuned llawrydd ehangach, wych ni. Felly dyma ni!Peter Mooney
Mae Llyfr Agored yn gynnyrch y profiad hwnnw. Treuliodd Peter hanner olaf ei amser yn ysgrifennu cais i Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer pennod nesaf Llyfr Agored, gan agor y cyfle i fwy o weithwyr llawrydd. Peter bellach yw cydlynydd prosiect y cynllun.
Y rhai nesaf i gymryd rhan yn y cynllun yw: Alexander Mushore (Actor / Awdur / Cynhyrchydd), Krystal Lowe (Dawnsiwr / Coreograffydd / Awdur / Cyfarwyddwr / Cynhyrchydd), Sara Hartel (Cyfarwyddwr / Hwylusydd / Datblygwr Theatr Gemau), Jeremy Linnell (Clown Bouffon / Awdur / Datblygwr Theatr Gemau) a Sophie Warren (Actor / Awdur).