Disgyblion Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn perfformio ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
See dates and times 3 Mai 2024
News Story
Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd wedi bod yn gweithio ar draws Sir y Fflint gyda 1,600 o ddisgyblion o 70 o ysgolion cynradd fel rhan o’r Rhaglen Profiad Cyntaf. Mae’r Rhaglen Profiad Cyntaf yn rhoi cyfle i blant ddysgu offeryn a chanu fel man cychwyn ar eu siwrnai gerddorol.
Daeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd â chyfle unigryw i’r plant lleol, gan berfformio gyda cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn ystod y digwyddiad deuddydd yn Neuadd William Aston, bu’r disgyblion yn cyfarfod ag aelodau’r gerddorfa yn ogystal â chwarae ochr yn ochr â hwy, gan berfformio cerddoriaeth a oedd yn cynnwys trefniannau 10 Darn y BBC o In the Hall of the Mountain King gan Edward Grieg a’r Firebird Suite gan Stravinsky.
0 Stars
Roedd yn wych i’n disgyblion ni gael y cyfle i chwarae ochr yn ochr â cherddorion cerddorfaol mor wych ond yr un mor bwysig ydi gwaith ein Cysylltiadau Cerddoriaeth arbenigol ni mewn ysgolion. Mae’r digwyddiad yma wedi bod yn benllanw dau dymor o ddysgu, ac rydw i wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith y mae’r rhaglen Profiadau Cyntaf yn ei chael ar blant a’u hysgolion. Mae’r rhaglen yn ategu ac yn ehangu arlwy gerddoriaeth bresennol yr ysgolion ac, yn ogystal â sgiliau cerddorol, mae’r disgyblion yn datblygu eu hyder, eu creadigrwydd, eu sgiliau gwaith tîm a’u gwydnwch. Mae’n darparu llwybr i wersi lleisiol neu offerynnol, ond yn bwysicach na dim, mae’n hwyl, yn hygyrch ac yn annog hoffter gydol oes o gerddoriaeth.Cath Sewell, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Theatr Clwyd
Mae’r Rhaglen Profiad Cyntaf yn cael ei chyllido gan Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru fel rhan o Gynllun Cenedlaethol Addysg Cerddoriaeth Cymru. Gyda chymorth Cyngor Sir y Fflint, mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd wedi gallu mynd y tu hwnt i’r gofyniad sylfaenol ac mae’n darparu sesiynau cerddoriaeth bob wythnos, heb unrhyw gost i’r ysgolion neu’r teuluoedd, am ddau dymor yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd Sir y Fflint.
0 Stars
Fe wnes i fwynhau’r digwyddiad yma yn fawr iawn – braf oedd gweld cymaint o blant cynradd yn chwarae ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol y BBC, yn rhoi sylw i’r arweinydd ac yn cadw amser wrth chwarae. Mae’n amlwg bod ein trefniant unigryw ni yn Sir y Fflint ar gyfer cyflwyno addysg gerddorol mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GerddoriaethTheatr Clwyd yn darparu cyfleoedd gwych i’n disgyblion ni ymgysylltu â phrofiadau cerddorol o safon uchel a’u mwynhau. Rydw i’n siŵr bod y profiad o chwarae ochr yn ochr â Cherddorfa Genedlaethol y BBC yn un na fydd y disgyblion yma a’u teuluoedd yn ei anghofio byth ac y bydd yn eu hysbrydoli i ddal ati i ymwneud â chreu cerddoriaeth am flynyddoedd i ddod.Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet dros Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden
I gael gwybod mwy am Gerddoriaeth Theatr Clwyd ewch i www.theatrclwyd.com/take-part/music