Mae Theatr Clwyd yn cefnogi pobl ifanc yn y rhaglen Hybiau Haf.
See dates and times 15 Medi 2023
News Story
Mae Theatr Clwyd yn adnabyddus i lawer am ei gwaith theatr arobryn ond fel elusen gofrestredig mae’r sefydliad yn gwneud cymaint mwy. Gyda thîm Ymgysylltu Creadigol ymroddedig yn gweithio yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni wedi ymrwymo i genhadaeth y cwmni o “Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro”. Mae'r tîm yn darparu cyfleoedd i'r rhai nad ydynt efallai wedi cael profiad o'r celfyddydau a’r theatr o'r blaen fel arall.
0 Stars
Mae'r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda'n cymunedau yn enfawr a gall amrywio yn seiliedig ar angen. Rydyn ni’n gweithio gydag ystod eang o oedrannau, galluoedd a phobl. Mae ein rhaglen Hybiau Haf yn amser ac yn ofod i bobl ifanc gael y cyfle i ddarganfod eu hunain drwy greadigrwydd. Rydyn ni’n defnyddio’r celfyddydau i gefnogi lles pobl ifanc ac mae’n hyfryd gweld pobl ifanc yn dod yn ôl bob blwyddyn ac yn meithrin ymddiriedaeth ynom ni, a hyder ynddyn nhw eu hunainDywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, Gwennan Mair Jones, am y prosiect:
Mae rhaglen Hybiau Haf Theatr Clwyd yn ei 4edd blwyddyn bellach mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint. Eleni mae 95 o bobl ifanc rhwng 5 a 18 oed wedi treulio pythefnos mewn gweithdai creadigol. Mae pob person ifanc wedi'i atgyfeirio i'r rhaglen drwy ei weithiwr cymdeithasol. Mae'r prosiect yn caniatáu cefnogaeth un i un lle bo angen, mae cludiant ar gael i'r rhai sydd ei angen gan y gwasanaethau cymdeithasol ac mae bwyd iach yn cael ei ddarparu gan Theatr Clwyd. Mae'r prosiect hefyd yn caniatáu seibiant i ofalwyr a rhieni.
0 Stars
Mae Theatr Clwyd, unwaith eto, wedi darparu haf o hwyl, creadigrwydd a chefnogaeth i blant a phobl ifanc. Mae’r prosiect wedi rhoi cyfle unigryw i blant o bob gallu brofi amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol sy’n diddanu, yn meithrin ac yn ysbrydoli. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Theatr am y rhan mae wedi’i chwarae wrth weithio gyda ni i gefnogi ein cymuned a’r mwynhad a gafwyd yn sgil hynny.Meddai Craig Macleod, Uwch Reolwr: Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint
Mae’r rhaglen wedi cyflogi 25 o artistiaid gan gynnwys gweithwyr llawrydd a Thîm Ymgysylltu Creadigol a Chysylltiadau Cerddoriaeth Theatr Clwyd i ddarparu gweithdai o ansawdd uchel ar draws ystod enfawr o ddisgyblaethau gan gynnwys y celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, cyfarwyddo, dawnsio, cyfansoddi, perfformio a llawer mwy. Mae'r pythefnos yn rhoi profiadau newydd i gyfranogwyr, gan ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â gwneud ffrindiau newydd a magu hyder mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Drwy gydol cyfnod ailddatblygu Theatr Clwyd, mae’r gweithgareddau cymunedol wedi parhau i gael eu cynnal gyda’r presenoldeb yn cynyddu mewn maint. Gyda rhywbeth i bawb - o ddawns ieuenctid i weithdai drama, Fuse Up (grŵp ar gyfer oedolion ifanc anabl a / neu ag anghenion dysgu ychwanegol a’u ffrindiau), Caffi Celfyddydau’r Cof (lle diogel gyda phobl o’r gymuned sy’n byw gyda cholled cof), gweithdai dawns i bobl sy'n byw gyda Parkinson's a llawer mwy.
Ar draws rhaglenni Theatr Clwyd maent yn gweithio gyda phartneriaid atgyfeirio gan gynnwys: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cymdeithasau tai lleol a City of Sanctuary.
Across Theatr Clwyd’s programmes they work with referral partners including: Betsi Cadwaladr University Health Board, local housing associations and City of Sanctuary.
I gael gwybod am y grwpiau Cliciwch Yma.
I gefnogi’r gwaith mae Theatr Clwyd yn ei wneud fel elusen gofrestredig cliciwch yma.