News Story
Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Kate Wasserberg, wedi cyhoeddi tymor agoriadol ffrwydrol ar gyfer eu hadeilad sydd newydd ei ailddatblygu.
Yn dilyn y gwaith ailddatblygu mawr bydd Theatr Clwyd yn ailagor yn 2025 gyda chynhyrchiad newydd o tick, tick…BOOM! Wedi’i chyfarwyddo gan Kate Wasserberg, daw sioe gerdd hynod lwyddiannus Jonathan Larson yn dynn ar sodlau ei chynhyrchiad yn y West End o Boys From the Blackstuff. Dilynir y cynhyrchiad agoriadol gan On Wednesdays We Wear Pink, darn wedi ei greu a’i berfformio gan bobl ifanc Theatr Clwyd a bydd y tymor hefyd yn cynnwys y gomedi dywyll gyffrous gan Alan Ayckbourn, Snake in the Grass a hefyd The Red Rogue of Bala gan y dramodydd o Gymru, Chris Ashworth-Bennion.
0 Stars
Mae hwn yn drobwynt i Theatr Clwyd ac yn anrhydedd fawr i mi fel Cyfarwyddwr Artistig. Mae’n bleser mawr gen i agor yr adeilad modern yma gyda thymor sy’n arddangos y cyfoeth a’r amrywiaeth anhygoel o dalent sydd i’w cael yng Nghymru. Mae’r tymor yma’n adlewyrchu ein cymunedau ni ac yn gwahodd cynulleidfaoedd yn ôl adref atom ni, beth bynnag yw eich chwaeth. Mae gennym ni sioeau cerdd, comedïau, dramâu cyffrous, gwedd newydd ar glasuron o Gymru a’n pantomeim eiconig ni, yn ogystal â gwaith newydd yn yr iaith Gymraeg yn Wrecsam.Cyfarwyddwr Artistig, Kate Wasserberg.
Y sioe agoriadol fydd y sioe gerdd hynod lwyddiannus tick, tick…BOOM! (2 Meh-28 Meh) gan Jonathan Larson, crëwr llawn gweledigaeth y cwlt clasurol RENT. Kate Wasserberg, sydd wedi cyfarwyddo gyda’r National Theatre ac yn y West End, sy’n cyfarwyddo’r sioe gerdd yma am y llanast cyffrous o fod yn ifanc, yn ceisio dilyn eich breuddwydion ac anelu at fawredd.
Bydd On Wednesdays We Wear Pink yn archwiliad llawen o ffasiwn a hunaniaeth drwy hanes. Wedi’i chreu a’i pherfformio gan bobl ifanc sy’n gweithio gyda thîm creadigol proffesiynol, bydd y sioe yn cael ei chyfarwyddo gan Gwennan Mair o Theatr Clwyd.
Yn yr haf, bydd Theatr Clwyd unwaith eto yn ffurfio partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd pedair drama fer newydd am brofiad Gogledd Cymru yn cael eu comisiynu a’u perfformio yn yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Comedi dywyll, gyffrous Alan Ayckbourn ywSnake in the Grass (15 Medi-4 Hyd) am deulu, cyfrinachau a llofruddiaeth. Wedi’i chynhyrchu gyda’r Octagon Theatre, Bolton, bydd y sioe yn cael ei chyfarwyddo gan Francesca Goodridge o Gymru.
Bydd The Red Rogue of Bala(3 Tach-22 Tach) gan yr awdur o Gymru, Chris Ashworth-Bennion, yn cael ei premiere byd yma. Mae’r ddrama hynod ddoniol, gyflym yma wedi’i gosod yng nghalon Sir Ddinbych yn seiliedig ar y carcharor, y potsiwr a’r lleidr drwg-enwog, Coch Bach y Bala. Yn cyfarwyddo’r sioe yma bydd Dan Jones o Gymru, Cyfarwyddwr Artistig The Other Room, Caerdydd.
Hefyd yn cael ei gyhoeddi yn 2026 a thu hwnt mae cynhyrchiad newydd o Under Milk Wood, gwaith mwyaf Dylan Thomas, a grëwyd fel rhan o Craidd, prosiect arloesol sy’n gwella cynrychiolaeth prif ffrwd mewn theatr ar gyfer a gyda phobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol.
Bydd Theatr Clwyd a’r Chichester Festival Theatre yn llwyfannu drama arobryn Emily White am newid hinsawdd a theulu yng Ngorllewin Cymru; bydd premiere drama deuluol ddoniol yr awdur o Gymru, Emily Burnett, yn cael ei chyflwyno a bydd Nia Morais yn ysgrifennu gwedd newydd ar glasur gothig o Oes Victoria. Bydd Twelfth Night William Shakespeare yn cael ei chyfarwyddo gan Juliette Manon fel dathliad godidog o ddiwylliant cwiar.
Mae ailddatblygiad Theatr Clwyd yn un o brosiectau mwyaf arwyddocaol yn ddiwylliannol Cymru. Bydd y prosiect trawsnewidiol yn darparu profiad llawer gwell i ymwelwyr, gofod penodol ar gyfer rhaglenni cymunedol ac ymgysylltu, a chyfleusterau cynhyrchu o safon byd, incwm gwell, i gyd mewn adeilad gwyrddach, mwy effeithlon, gan ddiogelu profiadau diwylliannol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.