Heddiw mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi’r unigolion dawnus a fydd yn gysylltiadau preswyl yn ystod y flwyddyn nesaf.
See dates and times 4 Ebr 2022
News Story
Mae’r Awduron Preswyl yn rhan o Raglen Datblygiad Creadigol TYFU|GROW Theatr Clwyd. Mae cyfnodau preswyl wedi’u dyfarnu i Jennifer Lunn, Hannah Daniel, Kristian Phillips, Wyn Mason a Lisa Parry.
Bydd y pum Awdur Preswyl ar gyfer 2022 yn gysylltiedig â chynyrchiadau mewnol Theatr Clwyd o Milky Peaks, Celebrated Virgins, ac A Pretty Sh*tty Love. Mae’r cyfnodau preswyl yn rhoi cyfle i awduron feithrin perthynas â chwmni pob cynhyrchiad a thîm Theatr Clwyd, treulio amser yn arsylwi ymarferion, a datblygu syniadau mewn amgylchedd cefnogol. Mae’r cyfnodau preswyl yn bosibl trwy gefnogaeth hael Llyfrgell Gladstone, a bydd y dramodwyr yn aros yn ei hystafelloedd hardd yn ystod eu cyfnod yng Ngogledd Cymru.
0 Stars
Ar ôl dwy flynedd heb ein Hawduron Preswyl, mae’n teimlo mor gyffrous gwybod eu bod yn mynd i fod yn ôl yn ein hadeilad ni. Tra rydyn ni, mewn partneriaeth â Llyfrgell wych Gladstone, yn gallu rhoi amser a gofod i’r awduron hyn ysgrifennu, maen nhw’n rhoi cymaint mwy i ni yn ôl – gwahanol safbwyntiau, ffyrdd newydd o feddwl, a chadarnhad o ba mor bwysig yw parhau i fod yn gartref cefnogol sy’n meithrin artistiaid yng Nghymru.Dywedodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd heddiw.
Mae Theatr Clwyd hefyd, am y tro cyntaf, wedi ymuno â’r Musical Theatre network (MTN) a Mercury Musical Developments (MMD) ar leoliad Tîm Ysgrifennu Theatr Gerdd Preswyl Cameron Mackintosh. Maen nhw’n falch iawn o gyhoeddi bod y lleoliad yn Theatr Clwyd sy’n dechrau ym mis Mehefin 2022 wedi’i ddyfarnu i Amir Shoenfeld a Caitlyn Burt.
Mercury Musical Developments a’r Musical Theatre Network sy'n gweithredu Cynllun Cyfansoddwr Preswyl Cameron Mackintosh, sy'n bosibl trwy gyllid gan Sefydliad Cameron Mackintosh. Trwy hyn, mae cyfansoddwyr theatr gerdd yn cael eu paru â sefydliad cynhyrchu, ac yn cael y cyfle i ymwneud ag ystod o brosiectau gan gynnwys datblygu eu gwaith newydd eu hunain, cysgodi cyfansoddwyr eraill, cyfarwyddo cerddorol a chyfansoddi caneuon, sain a cherddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau newydd. Yn y lleoliad hwn, am y tro cyntaf, penderfynwyd chwilio am dîm ysgrifennu theatr gerdd o ddau berson ar gyfer y cyfle, gan gydnabod y dull hynod gydweithredol y mae llawer o awduron theatr gerdd yn ei fabwysiadu. Dyma hefyd y lleoliad cyntaf yng Nghymru yn hanes y cynllun, a ddechreuodd yn 2011 ac sydd bellach wedi dyfarnu lleoliadau cyflogedig i 16 o awduron theatr gerdd. Mae’r lleoliadau diweddar wedi cynnwys y Royal Shakespeare Company, Dundee Rep, Theatr Gerdd Ieuenctid Prydain, Theatr Hope Mill a’r Lowry.
0 Stars
Amir a Caitlyn yw’r tîm perffaith ar gyfer y cyfnod preswyl yma, gan fod ganddyn nhw gymaint i’w roi i gymuned Theatr Clwyd, yn ogystal â bod yn barod ac yn agored i ddysgu ganddyn nhw. Yn MMD rydyn ni wedi cefnogi Amir a Caitlyn dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddyn nhw ddatblygu eu lleisiau unigol yn ogystal â ffurfio partneriaeth ysgrifennu greadigol a chynhyrchiol. Rydyn ni’n gyffrous i weld sut bydd eu gwaith theatr gerdd newydd yn datblygu a sut byddan nhw’n manteisio ar y cyfle yma gyda’u dawn a’u hegni.Dywedodd Emily Gray, Cyfarwyddwr Gweithredol, MMD.
0 Stars
Rydyn ni wedi derbyn ceisiadau yn y gorffennol gan dimau ysgrifennu dau berson oedd eisiau gwneud cais am leoliadau Cyfansoddwyr Preswyl, ond ddim eisiau i’r ffi gael ei rhannu yn ei hanner. Diolch i gefnogaeth Sefydliad Cameron Mackintosh, rydyn ni bellach wedi gallu cynnig y lleoliad yma gyda dau unigolyn yn derbyn y ffi lawn tuag at eu costau byw gan fanteisio ar y cyfle datblygiad proffesiynol yma. Mae’n hen bryd lleoli lleoliad yng Nghymru, a Theatr Clwyd ydi’r lleoliad perffaith ar gyfer hyn, gyda’i hanes gwych o lwyfannu theatr gerddorol newydd arloesol.Dywedodd James Hadley, Cyfarwyddwr Gweithredol, MTN.
0 Stars
Un o'r pethau mwyaf cyffrous i ni fel cwmni yw cael artistiaid yn ein hadeilad ni, yn dod yn rhan o wead pwy ydyn ni ac yn dod â'u dirnadaeth eu hunain i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Mae Caitlyn ac Amir nid yn unig yn ysgrifenwyr theatr gerdd hynod gyffrous, ond hefyd yn dod â chyfoeth o brofiad o wahanol wledydd a ffurfiau o greu cerddoriaeth. Mae'n beth anhygoel, yn enwedig yn yr amseroedd yma, i weithio gyda Mercury Musical Developments, y Musical Theatre Network a Sefydliad Cameron Mackintosh ar gyfnod preswyl mor flaengar ac arloesol.Dywedodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd.