News Story
Mae Theatr Clwyd wedi croesawu tri Ymddiriedolwr newydd – Harold Finley, Leusa Llewelyn a Siobhan Jones – wrth iddi gynnwys sgiliau a chefndiroedd amrywiol ar fwrdd Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd a’i grŵp masnachu.
Daw Harold Finley â phrofiad helaeth fel perfformiwr, awdur a chyfarwyddwr, ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Gweithredol Stage Directors UK. Leusa Llewelyn yw Prif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru gyda gwybodaeth am sîn ddiwylliannol ffyniannus Cymru yn y ddwy iaith. Bydd profiad masnachol a chorfforaethol Siobhan Jones o fewn y sector bancio yn ased amhrisiadwy wrth i’r sefydliad symud tuag at ei adeilad wedi’i ailddatblygu.
Mae Harold Finley yn awdur, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, a Chyfarwyddwr Gweithredol Stage Directors UK. Fel actor perfformiodd o amgylch y DU, yn Llundain a'r West End a Gogledd America. Yn awdur a chyfarwyddwr o fri mae ei waith wedi gwerthu allan ar draws y DU ac America. Cydsylfaenodd Harold ŵyl gelfyddydol Black, Queer & Fierce! ac mae’n aelod o bwyllgorau gwrth-hiliaeth a chynhwysiant SOLT/UK Theatre a Fforwm Amrywiaeth yr Ambassador Theatre Group.
0 Stars
Wrth ymweld â Theatr Clwyd cefais fy nharo gan gynhesrwydd popeth ddois i ar ei draws, yr harddwch naturiol, y mannau perfformio hyfryd a'r cynlluniau a'r heriau cyffrous o'i blaen. Mae Theatr Clwyd yn enghraifft ysbrydoledig ar gyfer cynhyrchu celf o safon byd y tu hwnt i ffiniau dinasoedd mawr.Harold Finley
Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae Leusa Llewelyn wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth. Hi yw Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru, ac mae’n curadu ac yn cynnal rhaglen flynyddol Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd o gyrsiau a gweithgareddau.
0 Stars
Rydw i wedi dilyn gwaith Theatr Clwyd gydag edmygedd, yn enwedig y gwaith allgymorth rhagorol sy’n cael ei wneud yn y gymuned leol. Mae eu gweledigaeth yn arloesol ac uchelgeisiol, ac rydw i’n edrych ymlaen at gefnogi eu tîm, a rhoi rhywbeth yn ôl i gymuned gelfyddydol Cymru.Leusa Llewelyn
Mae gan Siobhan Jones, a aned ar Benrhyn Cilgwri, brofiad helaeth mewn rheolaeth fasnachol, recriwtio a phartneriaethau corfforaethol ar ôl gweithio ar draws y Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru gyda chwmnïau mor amrywiol â Banc Lloyds a North West Cancer Research.
0 Stars
Rydw i wedi cael fy mhlesio nid yn unig gan ansawdd y cynyrchiadau yn Theatr Clwyd ond hefyd gan eu hymwneud â’r gymuned a phlant lleol, hyd yn oed drwy gydol pandemig Covid. Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn o fod yn rhan o’r siwrnai gyffrous mae Theatr Clwyd arni.Siobhan Jones