Theatr Clwyd yn cyhoeddi cyfnodau preswyl i artistiaid fel rhan o raglen TYFU|GROW 2020
See dates and times 10 Chwef 2020
News Story
Heddiw mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi ei Hawduron Preswyl a’i Chwmnïau Preswyl ar gyfer 2020, fel rhan o Raglen Datblygiad CreadigolTYFU|GROW.Mae cyfnodau preswyl i awduron wedi cael eu dyfarnu i Hannah Daniel, Katie Elin-Salt, Jennifer Lunn, Wyn Mason, Lisa Parry, a Kristian Phillips. Mae cyfnodau preswyl i gwmnïau wedi cael eu dyfarnu i Archipelago, Francesca Goodridge a Dan Lloyd, PRIDD, a Signdance Collective.
Bydd chwe Awdur Preswyl 2020 yn gysylltiedig â chynyrchiadau mewnol Theatr Clwyd, sef Milky Peaks, For The Grace of You Go I, a Project Hush, gyda dau awdur yn gysylltiedig â phob cynhyrchiad. Mae’r cyfnod preswyl yn gyfle i awduron feithrin perthynas gyda chwmni pob cynhyrchiad a gyda thîm Theatr Clwyd, i dreulio amser yn arsylwi ymarferion ac yn datblygu syniadau mewn amgylchedd cefnogol. Cefnogir rhaglen yr awduron gan Lyfrgell Gladstone ac yn ystafelloedd hardd yr adeilad hwnnw fydd y dramodwyr yn aros yn ystod eu cyfnod yng Ngogledd Cymru.
Mae’r cyfnodau preswyl i Gwmnïau’n cynnwys hyd at 2 wythnos o ofod ymarfer, swyddfa, cefnogaeth un i un gan dimau Cynhyrchu a Rhaglennu, Ymgysylltu Creadigol, Cyfathrebu a Rhoi, Cynhyrchu a Chyllid Theatr Clwyd, cefnogaeth gyda cheisiadau cyllido, a chyfle i rannu gwaith sydd ar y gweill ar ddiwedd pob cyfnod preswyl.
Dywedodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd heddiw: “Mae rhai o’r gweithiau mwyaf cyffrous rydyn ni wedi’u cynhyrchu wedi cael eu cyflwyno i ni drwy raglen TYFU|GROW, gan gynnwys y cynhyrchiad gwych Milky Peaks, sy’n cael ei premiere yn Theatr Clwyd y gwanwyn yma. Mae’n wefreiddiol cael rhannu ein cartref ni gydag awduron a chwmnïau newydd fel eu bod yn cael cynnig syniadau a’n herio ni gyda straeon newydd a ffyrdd newydd o’u hadrodd nhw. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ffurfio perthynas gyda’r artistiaid gwych yma yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”
Awduron Preswyl
Artistiaid a chwmnïau preswyl
Assistant Directors
Assistant Directors play a crucial role within our creative teams at Theatr Clwyd. In turn, our placements provide a vital learning opportunity for young directors. Each year we will work with organisations such as the JMK Trust and Bristol Old Vic Theatre School to provide placements, and we also invite applications for two of our productions each year.