Eleni, bydd y rhoddion yn ystod yr wythnos hon yn mynd tuag at ailddatblygu'r adeilad.
Canfu arolwg yn 2010 bod yr adeilad yn dod at ddiwedd ei oes ond bydd y prosiect yn trawsnewid yr adeilad gan ei wneud yn gwbl hygyrch gyda theatr o safon byd ar ei lwyfannau a chymuned yn ganolog iddo. Gyda hwb ieuenctid, ystafell celfyddydau ac iechyd bwrpasol, gardd synhwyraidd, siop bentref a mannau chwarae dan do ac yn yr awyr agored, bydd Theatr Clwyd yn dod yn gyrchfan i fwynhau’r celfyddydau, cwrdd â ffrindiau, cael seibiant, dysgu sgil newydd ac, yn bwysicach na dim... cael hwyl!
Mwy o wybodaeth am sut gallwch chi gyfrannu yn ystod Wythnos y Big Give yma.