Truth or Dare: cast wedi’i gyhoeddi ar gyfer cynhyrchiad newydd sbon Theatr Clwyd.
See dates and times 30 Maw 2023
News Story
Mae Theatr Clwyd yn falch iawn o gyhoeddi cast eu cynhyrchiad sydd i ddod, Truth or Dare.
Mae’r cysyniad wedi’i greu ar gynllun Curtain Up a berfformiwyd ym mis Medi 2021, mewn ymateb i bandemig Covid, gan gofleidio’r un faint o artistiaid llawrydd mewn un cynhyrchiad. Mae Theatr Clwyd wedi comisiynu deg awdur llawrydd i greu deg drama newydd sbon ar y thema Truth or Dare.
Bydd pob un o’r dramâu newydd sbon yma’n cael capsiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda’r sgriptiau’n gymysgedd o Saesneg, dwyieithog a Chymraeg. Bydd y deg drama fer yn pryfocio ac yn plesio gydag amrywiaeth o themâu o lofruddiaethau dirgel i chwedlau lleol a chomedïau ystafell llys.
Mae’r ugain actor sy’n ymgymryd â’r her gyffrous yma’n cynnwys:
Truth:
Dare:
Yn ysgrifennu ar gyfer Truth mae Alexandria Riley (The In-Between), Ceri Ashe (Bipolar Me), Lucie Lovatt, Melangell Dolma (Bachu) ac awdur pantomeim Theatr Clwyd, Christian Patterson (Robin Hood y Panto Roc a Rôl).
Ymhlith awduron Dare mae Greg Glover, Hannah Daniel (Awduron Preswyl Theatr Clwyd 2022), Kallum Weyman, Natasha Kaeda (In My Lungs The Ocean Swells), Bethan Marlow (Mold Riots).
0 Stars
Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag amrywiaeth mor gyffrous o awduron i ddatblygu a chreu gwaith Cymreig newydd – pob drama â’i llais, ei naws a’i theimlad unigryw ei hun. Mae Theatr Clwyd wedi ymrwymo i ddatblygu artistiaid yng Nghymru a’r cyffiniau gyda ffocws arbennig ar leisiau Cymreig. Gyda Truth or Dare bydd ein cynulleidfaoedd ni’n profi rhywbeth newydd sbon - ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu!Dywedodd Francesca Goodridge a Daniel Lloyd, Cyfarwyddwyr Cyswllt Theatr Clwyd
Truth(27 Ebr – Sad 13 Mai) Book Now
Dare (28 Ebr – Sad 13 Mai) Book Now