Truth or Dare: cyhoeddi’r awduron ar gyfer cynhyrchiad newydd sbon Theatr Clwyd.
See dates and times 31 Ion 2023
News Story
Mae sioe ddiweddaraf Theatr Clwyd Truth or Dare yn arddangos y dalent orau o bob rhan o Gymru. Mae'r lleoliad wedi comisiynu deg drama newydd sbon i'w hysgrifennu ar y thema Truth or Dare.
Mae'r cysyniad wedi'i adeiladu ar Curtain Up
a berfformiwyd ym mis Medi 2021 ac a gafodd 4 seren gan The Guardian. Crëwyd 15 drama fer newydd, a berfformiwyd dros 3 wythnos gan gast o 30 o actorion. Gan ddatblygu ar hyn, bydd y dramâu eleni’n cael eu rhannu’n ddau ddigwyddiad gyda thema a fydd yn cael eu perfformio drwy gydol misoedd Ebrill a Mai gydag 20 o actorion yn actio’r rhannau amrywiol yma.
Bydd pob un o’r dramâu newydd sbon yma’n cael capsiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda’r sgriptiau’n gymysgedd o Saesneg, dwyieithog a Chymraeg.
Mae Truth yn bum drama bryfociol i bwyso eich botymau chi. Cyfrinachau a chelwydd pan fydd y goleuadau wedi’u diffodd.Ydych chi eisiau ei glywed? Allwch chi ymdopi?
Yn ysgrifennu ar gyfer Truth mae Alexandria Riley (The In-Between), Ceri Ashe (Bipolar Me), Lucie Lovatt, Melangell Dolma (Bachu) ac awdur pantomeim Theatr Clwyd, Christian Patterson (Robin Hood y Panto Roc a Rôl).
Mae Dare yn bum drama ddireidus sy’n gofyn beth sy’n gwneud i chi ffrwydro. Troelli'r botel, mentro'r cyfan. Fe wna’ i ddangos fy un i i ti os gwnei di ddangos dy un di i mi. Fyddwch chi’n meiddio gwylio?
Ymhlith awduron Dare mae Greg Glover, Hannah Daniel (Awduron Preswyl Theatr Clwyd 2022), Kallum Weyman, Natasha Kaeda (In My Lungs The Ocean Swells), Bethan Marlow (Mold Riots).
0 Stars
Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag amrywiaeth mor gyffrous o awduron i ddatblygu a chreu gwaith Cymreig newydd – pob drama â’i llais, ei naws a’i theimlad unigryw ei hun. Mae Theatr Clwyd wedi ymrwymo i ddatblygu artistiaid yng Nghymru a’r cyffiniau gyda ffocws arbennig ar leisiau Cymreig. Gyda Truth or Dare bydd ein cynulleidfaoedd ni’n profi rhywbeth newydd sbon - ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu!Dywedodd Francesca Goodridge a Daniel Lloyd, Cyfarwyddwyr Cyswllt Theatr Clwyd
Bydd teitlau pob drama ynghyd â’r cast yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Yn cyfarwyddo Dare bydd Cyfarwyddwyr Cyswllt Theatr Clwyd. Francesca Goodridge (A Pretty Sh*tty Love) fydd yn cyfarwyddo gyda Daniel Lloyd (Robin Hood) fel Cyfarwyddwr Cyswllt. Yn cyfarwyddo Truth bydd Hannah Noone (taith y DU Home, I’m Darling yn 2023) gyda Juliette Manon (The In-between) yn Gyfarwyddwr Cyswllt. Millie Lamkin fydd yn cynllunio'r sioe. Ar hyn o bryd, mae Millie a Juliette yn hyfforddi ar Hyfforddeiaeth Carne ar gyfer Cyfarwyddwyr a Chynllunwyr.