News Story
Cynllun Preswyl Artistiaid a Chwmnïau Theatr Clwyd 2022
Rhan o TYFU | GROW - Rhaglen Datblygiad Creadigol Theatr Clwyd
Mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi pedwar cyfnod preswyl newydd yn 2022 i gefnogi artistiaid a chwmnïau i ddatblygu eu gwaith. Bydd ein cyfnodau preswyl yn cynnwys y canlynol:
- 2 wythnos o ofod ymarfer (mae'r dyddiadau isod)
- Gofod desg yn swyddfeydd Theatr Clwyd
- Cyngor a chefnogaeth un i un gan ein timau Cynhyrchu a Rhaglennu, Ymgysylltu Creadigol, Cyfathrebu a Chyfrannu, Cynhyrchu a/neu Gyllid
- Cefnogaeth gyda cheisiadau am arian
- Y cyfle i gynnal sesiwn rhannu eich gwaith ar ddiwedd y cyfnod preswyl gyda thîm Theatr Clwyd a rhanddeiliaid allanol. Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth i ddod o hyd i gynulleidfa ar gyfer y rhannu.
Ailddatblygiad Cyfalaf
Mae angen ailddatblygu ein hadeilad ar frys i sicrhau ei fod nid yn unig yn ddiogel ac yn addas i’r pwrpas ond hefyd yn gartref gwyrdd ac ysbrydoledig i’n cymuned am y 40 mlynedd nesaf a thu hwnt. Bydd y prosiect unwaith mewn oes hwn yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn cadw'r adnodd hanfodol a chynaliadwy yn ariannol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Er bod yr ailddatblygiad yn golygu na allwn gael mynediad i'r gofod ymarfer yn y theatr, mae gennym bellach 2 le mawr yn ein hadeilad yng nghanol tref yr Wyddgrug. Mae brasluniau ‘i faint’ a lluniau o’r lleoliadau hyn i’w gweld yma: Gwybodaeth am yr Ystafelloedd Ymarfer - Google Drive.
Dyddiadau’r Cyfnod Preswyl
Yr wythnos sy’n dechrau ar 16 a’r wythnos sy’n dechrau ar 23 Mai 2022 (Ystafell Ymarfer 2)
Yr wythnos sy’n dechrau ar 11 a’r wythnos sy’n dechrau ar 18 Gorffennaf 2022 (Ystafell Ymarfer 1)
Yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Medi a’r wythnos sy’n dechrau ar 3 Hydref 2022 (Ystafell Ymarfer 1)
Yr wythnos sy’n dechrau ar 21 a’r wythnos sy’n dechrau ar 28 Tachwedd 2022 (Ystafell Ymarfer 1)
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gwmnïau sydd wedi’u lleoli/yn gweithio yng Nghymru, cwmnïau sy’n gweithio yn y Gymraeg a chwmnïau sy’n cael eu harwain gan a/neu sy’n creu gwaith gydag artistiaid mwyafrif byd-eang.
Sut i Wneud Cais
Anfonwch ddogfen (3 ochr A4) atom neu fideo (3 munud) sy'n cynnwys y canlynol:
- Crynodeb o'ch gwaith fel cwmni. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am gynyrchiadau blaenorol neu, os mai hwn fyddai eich prosiect cyntaf, syniad o’r gwaith yr hoffech ei wneud fel cwmni.
- Syniad o'r gwaith rydych am ei ddatblygu gyda ni – ar gyfer beth fyddwch chi'n defnyddio'r amser? Pa gefnogaeth fyddai'n ddefnyddiol i chi? A fyddai rhannu eich gwaith gydag adborth yn werthfawr?
- Arwydd clir o ba un o'r cyfnodau preswyl fyddai'n gweithio i chi – os byddai sawl un yn bosibl, gwych! Rhestrwch nhw yn nhrefn blaenoriaeth.
Gall eich dogfen/fideo gynnwys lluniau, mapiau meddwl, unrhyw beth yr hoffech chi! Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cofiwch na allwn gynnig cymorth ariannol na llety yn anffodus.
Anfonwch eich ceisiadau at Sam Longville, Cynhyrchydd Cynorthwyol, yn Theatr Clwyd (sam.longville@theatrclwyd.com) erbyn dydd Gwener 11 Mawrth 2022. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ynghylch a allwn gynnig cyfnod preswyl i chi ai peidio erbyn 18 Mawrth 2022.