Galwad Agored: Tendr ar gyfer Llwybr Treftadaeth Rhyngweithiol
Rydym yn chwilio am artist neu sefydliad arloesol i greu llwybr treftadaeth rhyngweithiol cyfranogol sy’n tynnu sylw at hanes cyfoethog Theatr Clwyd.
Mae ein hadeilad rhestredig Gradd II 49 o flynyddoedd oed yn cyrraedd camau olaf ei brosiect ailddatblygu cyfalaf trawsnewidiol, ac rydym yn datblygu gosodiad unigryw, parhaol sy’n dathlu ein harwyddocâd pensaernïol a diwylliannol.
Wedi’i gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ein gweledigaeth ni yw creu profiad sy’n cyflawni’r canlynol:
- Denu ymwelwyr drwy adrodd straeon arloesol.
- Tynnu sylw at nodweddion treftadaeth hynod yr adeilad.
- Creu siwrnai hygyrch a hwyliog drwy hanes ein theatr ni.
Rydym wedi cyflogi’r Prif Ymchwilydd Jude Rogers i gasglu straeon am ein nodweddion treftadaeth mewnol unigryw, ac rydym yn chwilio am artist neu sefydliad profiadol i ddatblygu seilwaith technegol y llwybr rhyngweithiol, gan ddefnyddio’r straeon hyn a thystiolaeth hanesyddol. Ein gweledigaeth yw creu profiad naratif deniadol a allai fod yn ddigidol neu’n analog, ac rydym yn agored i syniadau creadigol yn ymwneud â chanllawiau sain a / neu fapio digidol. Yn bwysicach na dim, mae'n rhaid i'r llwybr gael ei ddylunio i sicrhau hygyrchedd i ymwelwyr byddar, anabl a niwrowahanol.
Ein nod ni yn y pen draw yw creu gosodiad am byth sy’n caniatáu i ymwelwyr archwilio a chysylltu’n chwareus â threftadaeth gyfoethog Theatr Clwyd, gan drawsnewid sut mae pobl yn profi ac yn deall hanes nodedig ein hadeilad ni.
Mae dogfen wybodaeth fanwl yn yr adran Adnoddau ar ddiwedd y dudalen.
Manylion y Prosiect
Cyfanswm y Gyllideb: £12,500 (gan gynnwys TAW). Nid yw hyn yn cynnwys teithio a llety os oes angen.
Penodi Artist: Mis Ebrill (yr union ddyddiad i'w gadarnhau)
Yr adeilad yn ailagor: Mis Mehefin 2025
Rhediadau prawf y Llwybr: Mis Gorffennaf (yr union ddyddiadau i'w cadarnhau)
Cwblhau'r Prosiect: 31ain Awst 2025
Mannau Cyffwrdd Treftadaeth
Rydym wedi cyflogi’r Prif Ymchwilydd Jude Rogers i gasglu straeon a chreu sgript am dreftadaeth y theatr yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â thair nodwedd dreftadaeth fewnol unigryw:
- Stiwdios Darlledu Gwreiddiol ITV Cymru: Lleoliad gweithredu Harlech Television (HTV) ar un adeg.
- Ein Ffrâm Baentio Weithredol Brin: Un o'r fframiau paentio gweithredol mwyaf, ac un o’r nifer bach sydd ar ôl, yn y DU.
- Ein Teils Acwstig wedi'u Gwneud â Llaw: Elfennau pensaernïol unigryw yn ein prif awditoriwm.
Themâu'r Comisiwn
Rydym wedi adeiladu ein prosiect o amgylch tair egwyddor graidd:
- Cynaliadwyedd: Lleihau ein heffaith amgylcheddol a hybu gwytnwch.
- Cymuned: Ymgorffori lleisiau lleol a meithrin profiadau cyfunol.
- Chwareusrwydd: Annog rhyngweithio cymdeithasol a dysgu llawen.
Gofynion Technegol
Rydym yn chwilio am artist / sefydliad a all wneud y canlynol:
- Dylunio a chreu'r seilwaith ar gyfer profiad llwybr rhyngweithiol, hunan dywys.
- Dylunio a gweithredu'r llwybr i sicrhau hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr byddar, anabl a niwrowahanol.
- Cyflwyno cynnwys yn y Gymraeg ac yn Saesneg, gyda chefnogaeth Theatr Clwyd.
Amserlen
Disgwylir i'r adeilad agor ym mis Mehefin 2025, ac mae amserlen fras i’w gweld isod, a fydd yn cael ei chydlynu â gwaith y pensaer a'r contractwyr ar y safle.
Sesiwn Holi ac Ateb Ar-lein: Dydd Gwener, 7fed Chwefror 2025, 11:30 – 12:30 (E-bostiwch sam.longville@theatrclwyd.com os ydych chi eisiau bod yn bresennol)
Dyddiad Cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb: Dydd Gwener 21ain Chwefror, 17:00
Llunio rhestr fer: yr wythnos sy’n dechrau ar 24ain Chwefror
Hysbysu’r Artistiaid / Timau ar y Rhestr Fer: Dydd Mawrth 4ydd Mawrth
Yr Artistiaid ar y Rhestr Fer yn Datblygu Dyluniadau Cysyniad: Dechrau mis Mawrth
Cyfweliadau Panel Cam Dau: Dydd Iau 27ain Mawrth, 13:00-17:00
Penodi Artist: Mis Ebrill (yr union ddyddiad i'w gadarnhau)
Rhediadau prawf: Mis Gorffennaf (yr union ddyddiadau i'w cadarnhau)
Cymeradwyo a chwblhau'r prosiect: Dydd Sul 31ain Awst
Sut i Wneud Cais
I gael manylion llawn am y broses ymgeisio, edrychwch ar y ddogfen dendro yn yr adran Adnoddau ar y dudalen we hon.
Mae hwn yn gais dau gam.
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion neu dimau dwyieithog, yn enwedig y rhai sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Mae croeso i gynigion sy’n archwilio adrodd straeon creadigol yn y Gymraeg, yn Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain, neu ieithoedd lleiafrifol eraill yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r prosiect terfynol gael ei gyflwyno yn y Gymraeg ac yn Saesneg, gyda Theatr Clwyd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer darpariaeth ddwyieithog os oes angen.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar y cyd gan artistiaid a / neu sefydliadau sy’n cyfrannu sgiliau amrywiol ac sydd eisiau cydweithredu efallai.
Unrhyw Gwestiynau?
Ymunwch â’n Sesiwn Holi ac Ateb ni ar-lein ar ddydd Gwener, 7fed Chwefror 2025, 11:30–12:30, gyda’n Prif Weithredwr, ein Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau a Phobl, a’n Cynhyrchydd. I fynychu, e-bostiwch sam.longville@theatrclwyd.com am y ddolen.
Cam Un: Mynegi Diddordeb (Dyddiad Cau: 21ain Chwefror 2025, 17:00)
Bydd artistiaid a sefydliadau’n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar fynegi diddordeb, gwaith blaenorol, ac ymateb cychwynnol i’r briff gan y Prif Ymchwilydd Jude Rogers, a Chyfarwyddwr Ymgyrch Cyfalaf Theatr Clwyd a Chynhyrchydd y prosiect.
Gwnewch gais drwy anfon y dogfennau canlynol at sam.longville@theatrclwyd.com:
Rhaid i'r llinell bwnc gynnwys: COMISIWN LLWYBR NLHF THEATR CLWYD
- Datganiad o ddiddordeb 2 dudalen (neu fideo 2 funud) yn egluro eich addasrwydd.
- Enghreifftiau diweddar o'ch gwaith (PDF).
- CV neu ddolen i'ch gwefan (uchafswm o 2 dudalen).
- Manylion cyswllt dau ganolwr (gydag o leiaf un yn gyfarwydd â'ch ymarfer).
- Eich manylion cyswllt (rhif ffôn ac e-bost).
Cofiwch: Ni ddylai’r ffeiliau fod yn fwy na 6MB.
Cam Dau: Datblygu Cysyniad
Bydd yr artistiaid / sefydliadau sydd ar y rhestr fer yn paratoi cysyniad i’w gyflwyno i banel sy’n cynnwys ein Prif Weithredwr, ein Cyfarwyddwr Cyllid, ein Hymchwilydd Arweiniol, a’n Cynhyrchydd. Bydd pob ymgeisydd sydd ar y rhestr fer yn derbyn £400 i ddatblygu eu cysyniad.
Bydd y cyflwyniadau’n cael eu cynnal ar ddydd Iau, 27ain Mawrth 2025. Bydd costau teithio’n cael eu talu. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion penodol ar ôl cyrraedd y rhestr fer.
Meini Prawf Asesu
- Dealltwriaeth o friff y comisiwn.
- Ansawdd a pherthnasedd gwaith blaenorol.
- Creadigrwydd a sgiliau cyfathrebu.
- Tystiolaeth o hawl i weithio yn y DU.