Catrin James
Artist ac archifydd sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yw Catrin James sy’n tynnu sylw at dreftadaeth adeiledig Cymru ar ôl y rhyfel drwy gyfrwng collage, ffilm a hanesion llafar. Gan weithio’n ddwyieithog, mae hi wedi creu straeon digidol ar gyfer sefydliadau gan gynnwys Oriel y Tate, Cymorth i Ferched Cymru a Chanolfan Adrodd Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru, sydd bellach yn rhan o gasgliadau archif y genedl yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hi sefydlodd bennod Abertawe o’r Gymdeithas Fodernaidd, gan gyhoeddi llyfr, ‘Modernist Swansea/Abertawe Fodernaidd’, yn 2023. Mae Catrin yn aelod o fwrdd Cymdeithas C20 Cymru ac yn ymddiriedolwr gyda Sefydliad Celf Josef Herman.