Cerren Doyle
Disgrifia dy hun mewn brawddeg neu 3 gair.
I ddisgrifio fy hun byddwn yn dweud fy mod wedi fy ysbrydoli gan y celfyddydau ac yn cael fy ysgogi gan yr awydd i ysgrifennu, cyfarwyddo a chreu. (Ond mewn tri gair yn unig, dw i'n greadigol, uchelgeisiol a byr :D)
Pa ddarn o theatr / cerddoriaeth / dawns / ffilm / gwaith celf sydd wedi cael effaith arbennig o barhaol arnoch chi?
Un o fy atgofion cyntaf o wylio rhywbeth yn Theatr Clwyd fyddai gweld y Ballet Rambert gyda mam a nain (pan oeddwn efallai tua saith oed). Nid oedd gennyf ddiddordeb mewn bale na dawnsio o'r blaen, ond ar ôl y perfformiad hwnnw roeddwn wrth fy modd. Sylweddolais fod theatr yn llawer mwy cymhleth ac fe wnaeth fy ysbrydoli i greu pethau hwyliog ac allan o'r cyffredin. Byth ers hynny, rwyf bob amser yn cymryd amser i sylwi pa mor unigryw yw gwahanol ddarnau o gyfryngau i'w gilydd, a'r awyrgylchoedd niferus o ryfeddod a ddaw yn sgil theatr.
Beth fu uchafbwynt dy amser fel rhan o'r Bwrdd Ieuenctid hyd yma?
Rwy'n meddwl mai fy hoff ran o ymuno â'r Bwrdd Ieuenctid oedd gallu cyfrannu fy holl feddyliau a syniadau i'r Theatr, a theimlo bod fy holl syniadau yn cael eu clywed. Mae'n lle croesawgar iawn ac mae pawb yn hynod gyfeillgar.