Chris Ashworth-Bennion
Mae Chris Ashworth-Bennion yn awdur a dramodydd o fri o Wrecsam a gafodd ei fagu ychydig y tu allan i Ruthun. Mae’n gyn-fyfyriwr yng Ngholeg Goldsmiths a Chwrs Awduron Ifanc y Royal Court. Mae ei waith wedi’i berfformio yn Theatr Clwyd, Theatre 503 yn Llundain a Southwark Playhouse ac yng Ngŵyl Caeredin.