Dan Lloyd
Mae Daniel Lloyd yn actor, cyfarwyddwr a cherddor. Cafodd ei fagu yn Rhosllannerchrugog a’i hyfforddi yn Ysgol Actio East 15. Fel actor, mae ei rannau yn y theatr yn cynnwys Eye of the Storm (taith yn y DU), The Commitments (Palace Theatre), Tom: The Tom Jones Musical (taith yn y DU), As You Like It(Cestyll Llwydlo a Stafford), Some Like It Hotter (taith yn y DU), Mods and Rox (The New Wolsey Theatre), a Spring Awakening (Theatr Genedlaethol Cymru/Elen Bowman). Ar gyfer Theatr Clwyd, mae ei rannau actio’n cynnwys Little Shop of Horrors, The Hub, The Taming of the Shrew, Animal Farm, a deuddeg panto roc a rôl yn olynol. Ar y teledu ef sy’n actio’r cymeriad Aled yn Rownd a Rownd ac mae wedi ymddangos yn Asra, Dau Dŷ a Ni, Tipyn o Stad, ac A470. Mae ei waith cyfarwyddo’n cynnwys The White Feather (Theatr na n’Og), a Shane (S4C) ac fel Cyfarwyddwr Cerdd, Rownd a Rownd Nadolig 2019, ASRA, Y Doniolis (S4C).