Eädyth Crawford
Mae’r artist a’r cynhyrchydd aml-genre, Eädyth Crawford, yn parhau i weithio ar gydweithrediadau cyffrous rhwng theatrau ledled Cymru, ac mae’n gyffrous i fod yn gweithio ar y cynhyrchiad Cymraeg yma o Fleabag.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae Eädyth wedi adeiladu portffolio amrywiol - gan sgorio ar gyfer A Midsummer Nights Dream Theatr y Sherman, Merthyr Stigmatist ac yn fwy diweddar, Imrie. Mae’n cyfuno ei steil grynji digamsyniol gyda seinweddau amgylchynol cymhleth, gan gynnal diddordeb y gynulleidfa drwy naratif cerddoriaeth a thynnu sylw at y cynyrchiadau. Ochr yn ochr â’i theitl fel cyfansoddwr, mae hi hefyd yn rhan o ddeuawd electro-roc / soul dwyieithog ‘EÄDYTH’, deuawd sydd wedi bod yn brysur yn eu stiwdio gartref yn Aberfan, yn gweithio’n galed ar eu cynyrchiadau ac yn dod o hyd i’w sain. Mae llais Eädyth yn taranu’n llawn enaid drwy eu traciau newydd, a’i llais cryf yn bwerus ac yn llawn neges o dwf personol a hunanhyder. Gan blethu gitâr a gitâr fas mewn seinweddau electro, a chwarae riffiau metel trwm tra mae’r bas yn gyrru’r caneuon yn eu blaen, dyma wedd gwbl newydd ar fetel Cymreig.