Garrin Clarke
Mae Garrin yn rheolwr llwyfan / cynhyrchu a chynllunydd goleuo anabl sydd wedi'i leoli yng Nghymru. Mae Garrin yn angerddol am greu gwaith heriol a chyffrous, ac mae wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith diogel, hygyrch a chynhwysol.
Mae rhai o brosiectau diweddar Garrin yn cynnwys gwaith gyda Taking Flight Theatre, Stammermouth, Theatr y Sherman, Hjijinx, Theatr Iolo, yr Eisteddfod Genedlaethol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle dilynodd gwrs MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau yn 2017.