Huw Davies
Mae Huw Davies yn arlunydd o Gymru y mae ei waith yn tyfu allan o straeon, mytholegau, a hanes y tir y mae wedi tyfu i fyny arno. Mae’n gweithio’n bennaf mewn cerflunwaith, paent a ffilm, ac mae wedi cymryd rhan mewn prosiectau celfyddydol ledled y byd – o Aberystwyth i Arizona. Mae ei waith wedi derbyn nifer o gydnabyddiaethau gan gynnwys BAFTA, gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl, a gwobr Prosiectau Eco Cenedlaethol.
Mae ei weithiau celf diweddar yn cynnwys cyfres o gerfluniau mygydau efydd ym Mryn y Beili yn yr Wyddgrug, sy’n ffurfio pos sy’n annog cymunedau i ymgysylltu â straeon sydd wedi mynd yn anghof bron; a phrosiect cyfranogol yn tynnu ar draddodiad cerfluniol hirsefydlog y Gadair Ffyn Gymreig.
Ochr yn ochr â’i gelf, mae Huw ar hyn o bryd yn astudio am Radd Meistr ym Mhrifysgol Glyndŵr / Wrecsam. Ym mis Mehefin 2024 bydd yn teithio i Frasil gyda'r brifysgol, i greu gwaith celf safle-benodol mewn cydweithrediad â Phrifysgol Ffederal Vitória. Mae'n byw gyda'i deulu yng Ngogledd Cymru.