Ivan Kashdan
Artist wedi’i leoli yn Llundain yw Ivan sy’n gwneud murluniau sy’n llacio cyfyngiadau caled pensaernïaeth – gan ddod ag elfennau’n fyw gan ddefnyddio lliw a gwneud marciau chwareus. Gyda chysylltiadau tyner a chyrff amorffaidd, mae paentiadau Ivan yn weledigaethau o gymundeb ecolegol a dynol, gan wahodd byd natur i mewn i wead y safle. Gan archwilio themâu cynaliadwyedd, hunaniaeth, niwroamrywiaeth a phersbectif heb fod yn ddynol, mae'n creu'r amodau i wylwyr ffurfio cysylltiadau newydd â'u hamgylchedd.
Astudiodd Ivan yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade, ar ôl hyfforddi yn Ysgol Ffilm Bournemouth. Yn 2022, derbyniodd Wobr Teithio Jeanne Szego i gynnal ymchwil i goedwigoedd glaw hynafol ar hyd arfordir gorllewinol yr Alban. Yn Llundain, mae wedi arddangos yn Staffordshire St Gallery, The Tub Gallery, ac wedi cwblhau sawl comisiwn, gan greu cefndir theatrig 10m ar gyfer y Bloomsbury Theatre, a murlun 17m ar gyfer Gwesty Room2 yn Chiswick.