Kay Dennis
Hei! Kay R. Dennis ydw i (nhw / eu), gwneuthurwr theatr ac unigolyn creadigol wedi fy lleoli yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Rydw i’n artist anneuaidd, cwiar, anabl, tew a dosbarth gweithiol sy’n dod yn wreiddiol o Stoke-on-Trent. Rydw i'n dal i deimlo fy mod i ar gam cynnar iawn ar fy siwrnai fel unigolyn creadigol - dydi dod o hyd i'r amser a'r lle i greu ochr yn ochr ag aros yn fyw a thalu biliau ddim yn rhywbeth rydw i wedi ei feistroli eto – rydw i'n aml yn gweithio ar brosiectau niferus ar draws y gwahanol bethau rydw i'n eu gwneud i gael dau ben llinyn ynghyd.
Fe ddaeth y cyfnod preswyl yma ar adeg roeddwn i wir ei angen - roedd y ffaith ein bod ni hefyd wedi cael aros yn Llyfrgell Gladstone yn eisin ar y gacen! Mae cael rhyddid i arbrofi heb ddisgwyliadau wedi arwain at ddatblygu syniad y byddaf yn bendant yn parhau i weithio arno y tu allan i’r pythefnos yma. Roedd y ffaith i ni hefyd gael camu i mewn i’r ymarferion gyda chast a chriw Constellations yn hynod amhrisiadwy fel artist – fel rhywun sy’n niwroamrywiol – mae cael sylfaen a fframwaith ar gyfer sut gall ystafell ymarfer edrych yn aruthrol o ran gweithio ar fy arfer fy hun.