Liz Taylor
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu yn unig; gan gyfrannu'n rheolaidd at gyfresi drama parhaus, BBC Doctors ac, yn fwyaf diweddar, Hollyoaks. Mae gen i hefyd brosiectau animeiddio a dramâu teledu i blant yn cael eu datblygu.
Yn fy arddegau, fe wnes i chwarae gyda’r theatr. Fe wnes i ysgrifennu drama a berfformiwyd yng ngŵyl Awduron Ifanc y Royal Court, a chymryd rhan yn yr ŵyl ryngwladol gyntaf i ddramodwyr ifanc yn Awstralia. Ar ôl cael fy magu yn y Fflint, roeddwn i'n gobeithio y byddai'r cyfnod preswyl yn caniatáu i mi ailgysylltu â fy ngwreiddiau a'r theatr ac yn rhoi cyfle i mi ddysgu yn ogystal â chreu.
Yn ôl yng Nghymru, yn profi bywyd yn agos at gartref fy mhlentyndod, fe fagodd y cyfnod preswyl ei ewyllys ei hun, yn fwy na fy syniadau creadigol a fy ysgrifennu. Fe ddaeth i ymwneud â fy hunaniaeth, o ble rydw i'n dod, pam rydw i fel rydw i a sut hoffwn i fod.
Yn swyddfeydd y theatr, roedd yn teimlo'n iawn i fod yn fregus ac yn agored i ffyrdd newydd o fynegiant. Roedd gwylio ymarferion yn brofiad bythgofiadwy – roedd gweld yr artistiaid yn gweithio yn agos yn cael effaith aruthrol. Fe ddatblygodd y syniad roeddwn i’n gweithio arno’n dri (mae un ohonyn nhw’n sioe gerdd – dydw i ddim yn hoffi sioeau cerdd hyd yn oed!). Mae'r cyfnod preswyl yma wedi newid y gêm i mi.
Felly nawr, os bydd unrhyw un yn gofyn, rydw i'n awdur sy'n ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r theatr.