Manon Awst
Artist o Gymru sy’n byw yng Nghaernarfon yw Manon Awst sy’n gwneud cerfluniau a gweithiau celf safle-benodol wedi’u gweu â naratif ecolegol. Mae’r ffyrdd y mae deunyddiau’n glynu at leoliadau a chymunedau ac yn eu trawsnewid yn cael lle blaenllaw yn ei hymchwil creadigol.
Mae ei dull rhyngddisgyblaethol o weithio wedi cael ei fowldio gan ei hastudiaethau academaidd mewn Pensaernïaeth (Prifysgol Caergrawnt), Ymchwil Artistig (Coleg Celf Brenhinol, Llundain) a deng mlynedd o ymarfer cydweithredol yn Berlin fel rhan o’r ddeuawd artistig, Awst & Walther.
Derbyniodd Ddyfarniad Artist gan Sefydliad Henry Moore yn ddiweddar ac, ar hyn o bryd, mae’n Gymrawd Cymru’r Dyfodol, fel rhan o Raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.