Ein Llysgenhadon

Actorion

Steffan Rhodri

“Mae 'newid bywyd' yn ymadrodd sy'n cael ei orddefnyddio, wrth gwrs, ond fel diffiniad o'r hyn y mae Theatr Clwyd yn ei olygu i mi mae 100% yn gywir. Ar wahân i ymweliad byr i recordio rhaglen deledu grefyddol y mae gen i gof annelwig amdani yn hen stiwdio HTV yn blentyn, daeth fy mhrofiad cyntaf o Glwyd yn nhymor agoriadol Terry Hands yn 1997/98. Heb y profiad hwnnw byddai fy ngyrfa a fy mywyd wedi bod yn wahanol iawn. Fel Cymro balch, actor o Gymru, roeddwn yn llawn gobaith o'r hyn y gallai’r cwmni Cymreig hwn, oedd newydd ei ffurfio, ei gyflawni.

Mae gen i atgofion byw o gerdded y coridorau cefn llwyfan sydd bellach yn gyfarwydd yn ystod fy nyddiau cyntaf y tymor hwnnw, gan fwynhau brwdfrydedd, proffesiynoldeb a photensial lle yr oeddwn i'n gwybod, rywsut, fyddai'n dod i olygu cymaint i mi. Ac fe wnaeth. O Abigail's Party i Cyrano de Bergerac, rydw i'n ei chael yn anodd dod o hyd i ddigon o fysedd i gyfrif nifer y cynyrchiadau rydw i wedi cael y fraint o fod yn rhan ohonyn nhw. Gan gynnwys adfywiadau, rwy'n credu mai 26 yw’r cyfanswm. O ddyddiau cyntaf y tymor hwnnw, rydw i wedi teimlo'n rhan o deulu Clwyd ac rydw i bob amser wedi ymfalchïo'n fawr ym mhopeth mae'r teulu hwn yn ei wneud a'i gyflawni.

Mae llawer o fy ffrindiau agosaf yn dod o'r teulu yma ac rydw i'n mawr obeithio y bydd fy mherthynas broffesiynol â'r lle hwn yn parhau cyhyd ag y byddaf i. Ar ôl dysgu cymaint o dan gyfarwyddiaeth Terry, a theimlo'n un o'i gwmni yn llwyr, os oedd yn cyfarwyddo'r sioe neu'n llywio un o'r cyfarwyddwyr gwych eraill rydw i wedi gweithio gyda hwy, rydw i wedi bod yn ffodus i weithio mewn llawer o theatrau gwych eraill. Un o'r cyfarwyddwyr cyntaf i mi weithio gyda hi yn Llundain oedd Tamara Harvey, ac mae cynhyrchiad wnaethom ni yn The Bush yn parhau i fod yn un o fy ffefrynnau erioed.

Roedd fy llawenydd yn enfawr, felly, o ddod i wybod, gydag ymddeoliad Terry, y byddai fy nghartref ysbrydol ar ben y bryn yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn nwylo diogel ac arloesol Tamara. Ac felly mae wedi bod. Roedd Terry eisiau sefydlu Clwyd fel un o dai cynhyrchu gwych y DU, a llwyddodd i wneud hynny. Serch hynny, efallai yn ystod yr amser hwnnw, bod y cysylltiad â'r gwaith cymunedol - a oedd wedi bod yn gymaint o ran o ddiffiniad Clwyd yn hanesyddol - wedi gwanhau ychydig. Mae Tamara wedi cofleidio'r angen hwn i ailgryfhau'r cyswllt hwnnw wrth barhau i gadw'r theatr ar flaen y gad mewn tai cynhyrchu rhanbarthol.

Yn dilyn llwyddiannau enfawr 'gartref' a thu hwnt gyda sioeau a phob tocyn wedi’u gwerthu, mae ei deinameg a'i harweinyddiaeth wrth sefydlu ffyrdd dychmygus o gysylltu â chynulleidfaoedd a'r gymuned yn ystod blwyddyn y pandemig wedi bod yn ysbrydoledig. Ychydig cyn i mi ddod i Theatr Clwyd am y tro cyntaf, roedd ei bodolaeth mewn perygl. Ers hynny, mae wedi dod yn un o'r sefydliadau celfyddydol mwyaf hanfodol ym Mhrydain, yn cael ei hedmygu’n enfawr. Mae fy malchder o fod yn rhan ohoni’n parhau heb bylu dim."

Sian Gibson

“Wedi fy ngeni a fy magu yn Sir y Fflint, mae Theatr Clwyd bob amser wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd i o oedran ifanc. Fy mhrofiad cyntaf un i o theatr fyw oedd gwylio'r pantomeim chwedlonol yno, ac wedyn, yn fy arddegau, fe wnes i ymuno â Theatr Ieuenctid Clwyd a nawr, rydw i wrth fy modd yn mynd â fy merch yno hefyd. Theatr Clwyd yw canolbwynt ein cymuned ni. Nid yn unig mae'n rhoi mynediad i ni i gynyrchiadau theatr o safon uchel sydd wedi ennill gwobrau lu ond mae hefyd yn lle cynnes, croesawgar a diogel i bawb. Rydw i’n teimlo mor ffodus o gael y lle yma ar garreg fy nrws a bydd ganddo le enfawr yn fy nghalon bob amser.”

Alfred Enoch

“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus o gael gwneud dwy ddrama gyda Tamara yn ystod yr 8 mis diwethaf, ac eto dydyn ni ddim wedi bod mewn ystafell ymarfer o gwbl, nac wedi rhoi’r gwaith wnaethom ar lwyfan o flaen cynulleidfa. Dyma natur yr amseroedd rydyn ni'n byw ynddyn nhw. Cafodd y ddwy ddrama - What a carve up !, a The Picture of Dorian Gray - eu creu "ar gyfer y llwyfan ar-lein". Hynny yw, eu ffilmio a sicrhau eu bod ar gael ar-lein. Mae'r ffaith bod y ddau ddarn yma wedi cael eu gwneud o gwbl, ac wedyn cyrraedd cynulleidfa mor eang, yn dyst enfawr i ddyfeisgarwch a dawn Tamara a'i chydweithwyr. Fodd bynnag, hanfod theatr yw cynulleidfa a chwmni sy'n rhannu gofod yn ogystal â stori, ac fel rydyn ni i gyd yn gwybod, mae hyn wedi bod yn amhosibl oherwydd digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf. Yn methu cael pobl drwy eu drysau, mae theatrau wedi cael eu taro’n galed, ac i wneud pethau’n waeth, daw hyn ar ben cyfnod parhaus o doriadau i’r celfyddydau. Yn ôl The Stage, gostyngodd cyllid celfyddydau’r llywodraeth 35% rhwng 2010 a 2020, ac eleni yn unig mae’r llywodraeth wedi cynnig torri cyllid ar gyfer addysg y celfyddydau 50%. Mae'r angen wedyn, yn glir. Ar y ddwy ochr. Rhaid i theatrau fel Clwyd dderbyn cefnogaeth i barhau i wasanaethu eu cymunedau yn y ffordd maent yn ei haeddu; ac fel cymdeithas mae arnom ni angen, yn fwy nag erioed nawr, fannau lle gallwn ddod at ein gilydd i brosesu ar y cyd yr hyn rydym wedi bod drwyddo, efallai weithiau i anghofio'r hyn rydym wedi bod drwyddo, ac i ddychmygu i ble y gallwn fynd o'r fan yma.”

Sam West

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn anarferol o ran ei berchnogaeth o theatr gynhyrchu, sydd wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar gyda’i gwaith ar y llwyfan. Ond yn gynyddol, dim ond rhan o'r hyn y gall ac y mae'n rhaid i theatr fod yn ei chymuned yw'r gwaith hwnnw. Canolbwynt, cysur, hafan. Mae cyni wedi brathu'n galed yn ystod y degawd diwethaf; mae awdurdodau lleol bellach yn cael llai i ddelio gyda mwy; bu'n rhaid i theatrau ddod yn llefydd o loches ac ysbrydoliaeth i bobl na fydd byth yn gweld drama yno efallai. Dangoswch i bobl ifanc bod theatr yn lle iddyn nhw berfformio ynddo a byddant yn sicrhau ei bod yn parhau. Mae Sir y Fflint a Clwyd wedi adnabod yr angen yma, ac wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch mewn ffordd gynaliadwy a thrwy ddathlu. Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd i blant ac i ofalwyr. Gall ychydig o help fynd yn bell. Rydw i'n arbennig o falch o'r cynlluniau ar gyfer parhad.”

Layton Williams

“Rydw i’n addoli’r gwaith mae Tamara a’r tîm yn Theatr Clwyd yn ei greu ac rydw i mor gyffrous am ddychwelyd (gobeithio) yn fuan i weld ailddatblygiad y Theatr. Fe wnes i chwarae fy rôl theatr gerdd gyntaf fel ‘oedolyn’ yn chwarae Angel yn RENT ac wna i fyth anghofio’r atgofion wnaethon ni eu creu yn yr Wyddgrug. Roedd yn ddechrau ar daith gyffrous i mi a llawer o aelodau eraill yn y cast. Mae mor bwysig cefnogi'r celfyddydau, yn enwedig yn ystod yr amseroedd yma, fel bod pobl greadigol yn gallu cael lle i synnu eu hunain a difyrru cynulleidfaoedd rhanbarthol. Maen nhw hefyd yn haeddu sioeau 5*, nid dim ond y West End!”

Katherine Parkinson

“Roedd Theatr Clwyd yn lle perffaith i roi cychwyn i siwrnai Home, I’m Darling. Wrth i ni wneud ein perfformiadau cyntaf ym mryniau hyfryd Cymru, fe wnaeth y cynulleidfaoedd cynnes a chefnogol ein helpu ni i ddarganfod naws y ddrama. Fe wnaeth y tîm yno adeiladu ein set ragorol i ni, a gwneud y gwisgoedd harddaf i mi. Roedd y profiad hapusaf i mi. Gobeithio y bydd yn ffynnu am byth.”

Rosie Sheehy

“Pryd bynnag y bydda’ i’n ymweld â Theatr Clwyd, rydw i’n cael fy atgoffa o ba mor hanfodol yw theatr fyw ac mae fy angerdd dros hyn yn cael ei danio ar unwaith. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nghyfarwyddo gan Tamara Harvey yn Uncle Vanya gan Peter Gill. Drwy ei harbenigedd gwych, ei chalon agored a'i hiwmor di-baid, fe wnaeth chwarae Sonya yn Theatr Clwyd yn un o'r profiadau hyfrytaf y gallwn i fod wedi gofyn amdano erioed fel actor. Mae Theatr Clwyd nid yn unig yn hwb cynhyrchu rhagorol ar gyfer y celfyddydau - mae'r gefnogaeth mae'r theatr wedi'i rhoi i weithwyr llawrydd a'i chymuned leol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn amhrisiadwy.”


Cerddoriaeth

Rob Guy

“Fe gefais i fy magu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a rhoddodd Theatr Clwyd gyfle i mi gwrdd a gweithio gyda cherddorion o fri rhyngwladol. Fe glywais i Nicola Benedetti yn chwarae pan oeddwn i yn yr ysgol a chefais gyfle i gwrdd a siarad â hi ar ôl y cyngerdd. Fe wnaeth hi fy annog i weithio'n galed a dilyn fy mreuddwyd. Fe gymerais i ran hefyd mewn gweithdai cerddoriaeth a drefnwyd gan Aled Marshman yn Theatr Clwyd lle bûm yn gweithio gydag athro uchel ei barch o’r Royal Northern College of Music a ddywedodd "Os wnei di weithio'n galed a chael dy dderbyn i’r leg Royal Northern College of Music, fe wna i dy ddysgu di”. Fe wnaeth y profiadau yma fy helpu i gael hyfforddiant conservatoire ar y lefel uchaf a dim ond diolch i ThC oedd hyn yn bosibl. Pobl ragorol yn yr Wyddgrug ar garreg fy nrws.

Rydw i'n falch fy mod yn dod o Ogledd Cymru ac wedi mynychu fy ysgol gyfun leol - dim ysgolion preifat nac 'ysgolion arbenigol'. Ar adegau pan oeddwn i’n astudio ym Manceinion a hyd yn oed nawr yng nghyfnod cynnar fy ngyrfa, mae o ble rydych chi'n dod a’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghaerdydd neu Lundain o bwys yn ôl pob tebyg, ac rydw i'n teimlo’m israddol yn aml. Rydw i'n teimlo'n hynod o lwcus fy mod wedi cael y cyfleoedd yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae pawb yn haeddu cerddoriaeth, mynediad a chyfle o safon byd. Mae perfformio yn y Royal Albert Hall yr un mor bwysig â Theatr Clwyd. Ni ddylai mynediad at y cyfleoedd hyn fod ar gyfer pobl sy'n gallu eu fforddio neu sy’n byw mewn dinas yn unig. Dyma pam mae angen Theatr Clwyd.”


Iechyd a Lles

Craig Macleod, Uwch Reolwr ar gyfer Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint

“Mae angerdd creadigol, egni ac ymrwymiad Theatr Clwyd i ennyn diddordeb a chefnogi plant yn hyfryd ac yn ysbrydoledig. Rydyn ni wedi datblygu partneriaeth gadarn gyda Theatr Clwyd sy'n canolbwyntio ar ddull cynhwysol ac addasol o weithio gyda'r plant a'r bobl ifanc a gefnogir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r ethos a’r dull gweithredu ymhell o fod yn ddull traddodiadol ‘gwasanaeth’ a ‘lle’. Mae'r Theatr yn edrych mewn ffordd hollol unigryw ar ei gwaith cymunedol, gan wrando ar yr hyn mae plant a phobl ifanc ei eisiau, a chydgynhyrchu gweithgareddau gyda nhw. Mae gweithgareddau'n digwydd mewn lleoliadau cymunedol yn ogystal ag agor a throsglwyddo gofod y Theatr i'n plant, gan eu haddasu'n aml i sicrhau mynediad cynhwysol i bawb. Mae ein pobl ifanc wedi bod yn ymwneud ag ysgrifennu creadigol, adrodd straeon, actio, sgiliau ymladd, dylunio ffasiwn, canu, ysgrifennu caneuon, dysgu a chwarae offerynnau cerdd ac, yn bwysicaf na dim, rydyn ni wedi gweld plant yn datblygu atgofion plentyndod cadarnhaol yn seiliedig ar chwerthin, cyfeillgarwch, a chefnogi ei gilydd. Mae’r profiad a rennir wedi creu teulu ‘micro’ lle mae pobl ifanc yn cefnogi ac yn annog ei gilydd.

Mae'r rhaglenni sy'n cael eu cynnal gan y Theatr wir yn goresgyn rhwystrau, yn estyn allan, yn ymgysylltu ac yn galluogi pobl ifanc i gyfrannu eu syniadau a'u sgiliau. Maent nid yn unig yn gwella hyder a phrofiad plant a phobl ifanc ond maent hefyd yn ehangu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae gennym berson ifanc, sy'n derbyn gofal, sydd bellach â’i fryd yn gadarn ar fod yn gynllunydd ffasiwn.

Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol rydyn ni wedi gweld plant yn datblygu ac yn ffynnu drwy eu hymwneud â'r Theatr, weithiau gall y camau ymddangos yn fach ond rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n llamau enfawr i'r plentyn unigol. Mae un person ifanc wedi gallu dweud wrth ei weithiwr cymdeithasol beth sy'n bwysig iddo a'r gefnogaeth mae'n teimlo sydd arno ei hangen drwy ddefnyddio sioe bypedau. Ysbrydolwyd hyn gan ei ymwneud â'r Theatr, cyn hyn ni chyfrannodd at ei asesiad o gwbl, ond erbyn hyn mae wedi dod o hyd i ffordd o gyfleu ei deimladau a'i ddyheadau i'n helpu ni i'w gefnogi ef a'i ddatblygiad. Mae'r posibiliadau ar gyfer cefnogi ein cymuned yn helaeth ac yn cyd-fynd ag uchelgais a chreadigrwydd unigryw y Theatr i fod yn gynhwysol i bob rhan o'n cymuned leol.”