Defnyddio'r celfyddydau ar gyfer manteision tymor hir
Profir bod darparu manteision effaith uniongyrchol a thymor hir y celfyddydau yn cynorthwyo lles seicolegol a chorfforol – drwy leihau effeithiau dinistriol gorbryder, straen, iselder ysbryd a thrawma, datblygu gallu'r ysgyfaint neu gynnal swyddogaethau gwybyddol a datrys problemau. Rydym yn cydweithredu gyda bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru i gwrdd â’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein gweithdai dawns yn creu endorffinau i leihau straen a chynyddu hyblygrwydd, cryfder ac ymwybyddiaeth o’r corff. Rydym yn lleihau ynysu cymdeithasol mewn cartrefi gofal ac ysbytai drwy sgrinio sioeau yn fyw yn uniongyrchol i ystafelloedd.
Mae Celfyddydau o’r Gadair Freichiau yn helpu swyddogaethau gwybyddol a chofio ac mae ein prosiect Consent i ysgolion yn mynd i'r afael â mater cymdeithasol ac iechyd rhywiol mawr.
- Darparu sesiynau lles iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn, dan arweiniad y celfyddydau
- Mynd i'r afael â cholled cof cynnar a chofio gwybyddol drwy raglenni tymor hir
- Creu a defnyddio gofod gwyrdd i sbarduno lles meddyliol a chorfforol
Mae'r byd yn lle dryslyd a brawychus pan fydd gennych golled cof cynnar. Celfyddydau o’r Gadair Freichiau yw ein rhaglen sydd wedi’i chymeradwyo yn glinigol dan arweiniad Hester, a’i nod yw cynnal swyddogaethau gwybyddol.
“Mae Graham* yn cael anhawster dod o hyd i’w ffordd rownd ei gartref ei hun. Ond bob wythnos mae’r atgofion newydd mae’n eu creu yn golygu ei fod yn gallu dod o hyd i’w ffordd i’r sesiwn – mae hyn yn oed yn cofio dod â bisgedi i eraill yn y grŵp. Mae’n gwneud byd o wahaniaeth i’w fywyd.”