Dan arweiniad artistiaid gorau pob cenhedlaeth - George Roman, Toby Robertson, Helena Kaut-Howson, Terry Hands a bellach y Cyfarwyddwr Artistig Tamara Harvey - gyda chyn gysylltiadau sy’n actorion a phobl greadigol o fri rhyngwladol (gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, Katherine Parkinson a Rufus Norris ), mae ein gweledigaeth artistig a'n deinameg yn arddangos gorau cenedl. Rydym yn gynhyrchydd theatrig ac allforiwr diwylliannol o bwys.
Fel theatr fwyaf blaenllaw Cymru, mae ein gwaith yn teithio’r DU, gan godi proffil, hyder, balchder a statws theatr o Gymru. Yn un o ddim ond pedair theatr yn y DU sy’n adeiladu setiau, creu gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol, rydym yn diogelu sgiliau creu theatr hanfodol i sicrhau y gallwn wthio ffiniau theatrig i greu sioeau syfrdanol o had dychymyg yr awduron.
• Cynnal y safonau cynhyrchu uchaf gan weithio gyda crëwyr theatr gorau'r DU.
• Teithio ac allforio ein gwaith ledled y DU a thu hwnt.
• Cynnal cyfleusterau creu gyda swyddogaethau llawn gyda gwisgoedd, setiau, props a chreu gwisgoedd.
“Mae creu gwisgoedd gwych yn fewnol yn golygu y gallwn greu eitemau pwrpasol, gwell, o ansawdd uchel (sy’n ddigon da ar gyfer y National Theatre neu’r West End). Mae theatrau eraill bob amser yn dweud pa mor genfigennus ydyn nhw ohonom ni, o’r sgiliau sydd gennym ni, yr ansawdd rydym yn ei gynhyrchu, a'n dawn a'n gallu creadigol – rydw i'n falch o fod yn rhan o hynny.”Fe wnaeth Debbie yn ein tîm gwisgoedd helpu i greu gwisgoedd ar gyfer ein sioe yn y West End a enillodd Wobr Olivier, Home, I’m Darling.
Main image: Rent, Theatr Clwyd Production.