Built in 1976 Theatr Clwyd is Wales’ largest producing theatre, with all of our making departments in house. This means that we build and paint the sets that you see on our stages and our incredible wardrobe team make the elaborate costumes for the actors to wear.
Wedi’i hadeiladu yn 1976, Theatr Clwyd yw theatr gynhyrchu fwyaf Cymru, gyda’n holl adrannau creu yn fewnol. Mae hyn yn golygu ein bod yn adeiladu ac yn paentio'r setiau welwch chi ar ein llwyfannau ni ac mae ein tîm gwisgoedd anhygoel yn creu’r gwisgoedd gwych i'r actorion eu gwisgo.
Fodd bynnag, canfu arolwg yn 2010 bod yr adeilad yn syrthio yn ddarnau, rhywbeth roeddem yn ymwybodol iawn ohono, a rhagfynegwyd nad oedd llawer o flynyddoedd ar ôl cyn y byddai angen iddo gau. Gan symud ymlaen i 2016, gyda phenodiad Tamara Harvey a Liam Evans-Ford, eu cenhadaeth hwy oedd achub Theatr Clwyd a gwneud yn siŵr bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu galw’r adeilad anhygoel yma’n gartref.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, rydyn ni wedi gallu creu prosiect sydd nid yn unig yn achub yr adeilad ond hefyd yn ei ddiweddaru ac yn ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol, fel ein bod yn gallu defnyddio’r adeilad mewn ffyrdd na fyddem wedi meddwl amdanynt yn y 1970au pan gafodd ei adeiladu.
Blaen Tŷ
Rydyn ni’n mynd i fanteisio ar y golygfeydd gwych sydd gennym ni yn Theatr Clwyd a gwneud yn siŵr bod profiad yr ymwelydd yn cyfateb i ansawdd y gwaith welwch chi ar ein llwyfannau ni.
Gydag estyniad yn y blaen a theras a bwyty newydd sbon ar y llawr cyntaf, Theatr Clwyd fydd y lle perffaith i gael pryd o fwyd neu ddiod cyn sioe yn y theatr. I lawr y grisiau bydd caffi bachu a mynd a siop lle gallwch chi brynu eich sgriptiau drama a phapurau lleol ac i deuluoedd bydd ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored i blant eu mwynhau.
Celfyddydau, Iechyd a Lles
Rydyn ni’n datblygu ein rhaglen Celfyddydau, Iechyd a Lles. Gan weithio gyda’r bwrdd iechyd lleol ac elusennau iechyd arbenigol rydyn ni wedi datblygu rhaglen o weithgareddau fel Celfyddydau o’r Gadair Freichiau a Dawnsio ar gyfer Parkinson’s sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd drwy’r celfyddydau. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Dinas Noddfa ac wedi dod yn Theatr Noddfa, gan greu cartref cefnogol i bobl sy'n ceisio lloches. Drwy ddefnyddio pŵer y celfyddydau rydyn ni’n gwybod y gallwn ni gefnogi mwy o bobl sy'n byw drwy heriau yn eu bywydau a bydd y gyfres celfyddydau, iechyd a lles arbenigol yn gartref i'r rhaglenni hyn. Yn arwain o’r ystafell arbennig yma bydd gardd synhwyraidd yn cynnig eiliad o dawelwch mewn byd sy'n aml yn brysur a di-drefn.
Hwb Ieuenctid
Bydd hwb ieuenctid Theatr Clwyd yn ofod lle gall pobl ifanc ymarfer, dysgu a chwarae. Bydd yn ofod iddyn nhw yn unig, i adeiladu ar yr holl waith anhygoel sydd eisoes yn digwydd gyda phobl ifanc. Bydd hwn yn gyfleuster pwrpasol y byddan nhw’n ei ddylunio ar gyfer eu hanghenion ac y gallwn ni ei ddefnyddio ar gyfer ein gwaith gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi rhai o'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed sy'n byw yn Sir y Fflint.
Y Gwneuthurwyr a'r Crëwyr
Dydyn ni ddim wedi anghofio am y bobl hynny sy’n gwneud y gwaith ar ein llwyfannau ni ac, ochr yn ochr â dod â’r gweithdy yn ôl gartref (mae wedi’i leoli ar hyn o bryd mewn cyfleusterau rhent oddi ar y safle), bydd gennym ystafell ymarfer uchder dwbl newydd. Stiwdio ddysgu i wneuthurwyr a chrëwyr theatr fuddsoddi yn eu datblygiad eu hunain a chyfleusterau cefn llwyfan wedi’u diweddaru fel ein bod yn gallu denu talent o’r safon uchaf i’n theatr ni ar ben y bryn. Bydd ailddatblygiad Theatr Clwyd yn sicrhau nid yn unig mai ni fydd y theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru ond hefyd yn gartref i ddatblygu talent o Gymru.
Yr Amgylchedd
Does dim byd pwysicach na mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd ond gyda sioeau teithiol ac adeiladau mawr (mae Theatr Clwyd yr un maint â’r National yn Llundain) gall hyn fod yn her. Fodd bynnag, ni fydd nwy yn yr adeilad newydd, bydd yn casglu dŵr glaw i fflysio’r toiledau, bydd ganddo wal werdd fyw, dau bwmp gwres ffynhonnell aer newydd a bydd y seilwaith yn cynnal celloedd ffotofoltäig solar ar draws 1,000m² o ofod to. Nod y prosiect yw bod yn un o'r enghreifftiau proffil uchel cyntaf o leoliad diwylliannol dim carbon yn y DU.
Gallwch ddarganfod mwy am y tîm y tu ôl i'r ailddatblygiad anhygoel hwn yma.
Mae’r ailddatblygiad wedi cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru a thrwy roddion gan gyllidwyr preifat. Mae gennym ni darged codi arian o £5 miliwn ac, ar ôl rhagori ar y £4 miliwn, rydyn ni wedi lansio ein hymgyrch codi arian gyhoeddus yn ddiweddar ac mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan, o enwi un o’n teils gwreiddiol ni o’r 1970au i gynnal eich bore coffi eich hun. Darganfyddwch sut gallwch chi gymryd rhan yma.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am yr ailddatblygiad a sut gallwch chi ei gefnogi, cysylltwch â Claire Pilsbury, y Pennaeth Datblygu.
All redevelopment images by Haworth Tompkins