Does dim her fwy na newid yn yr hinsawdd, a rhagwelir difrifoldeb cynyddol yn ystod y blynyddoedd i ddod. Rhaid i ni weithredu'n bendant ac yn uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd rydyn ni'n byw, yn gweithio - ac, wrth gwrs – yn creu celf. Rydym mewn sefyllfa berffaith i ysbrydoli a symbylu newid. Gan gydweithio â Donmar Warehouse yn Llundain rydym yn creu dwy ddrama am effeithiau cynhesu byd-eang ac wedi eu cynhyrchu ochr yn ochr â Julie’s Bicycle (yr elusen fyd-eang flaenllaw sy’n pontio cynaliadwyedd amgylcheddol a’r diwydiannau creadigol) i greu fframwaith arfer gorau newydd ar gyfer cynhyrchu theatr gynaliadwy. Rydym yn paru geiriau ag arfer - o ailddefnyddio, ailgylchu neu adnewyddu setiau, gwisgoedd a phrops i newid plastigau defnydd sengl am opsiynau gwyrdd eraill. Mae arnom angen adeilad i gyd-fynd â'n huchelgais a hwyluso ein harfer amgylcheddol cynyddol. Bydd dwylo, calonnau a meddyliau yn dod at ei gilydd, gan gynnig microcosm o gynaliadwyedd a nodi ymrwymiad Cymru i genedlaethau’r dyfodol ac arweinyddiaeth ddiwylliannol.
Adeilad gwyrdd blaengar
- Byddwn yn arddangos technolegau effeithlonrwydd ynni, carbon isel ac adnewyddadwy, gan weithio ochr yn ochr â natur.
- Mae paneli solar PVT yn ffrwyno ynni'r haul i leihau ein defnydd o drydan
- Dŵr glaw wedi'i gynaeafu fel dŵr i’r toiledau
- Bydd gwell inswleiddio yn lleihau'r defnydd o wres
- Mae pympiau gwres ffynhonnell aer ac awyru naturiol yn lleihau'r ddibyniaeth ar nwy
- Waliau a thoeau gwyrdd ar gyfer inswleiddio a bioamrywiaeth
- Wedi'i adeiladu o ddeunyddiau cynaliadwy - nid concrid
All redevelopment images by Haworth Tompkins