Adeilad i artistiaid gwych
Bydd ein hadeilad wedi’i ailddatblygu yn diogelu creu theatr yng Nghymru. Bydd y cyfleusterau o safon byd ar gyfer creu gwisgoedd, setiau a phrops yn cyfateb y gwaith sy’n cael ei greu ar ein llwyfannau ni, gan sicrhau dyfodol maith, cynaliadwy a llwyddiannus i’r theatr.
Lle i ddysgu a chysylltu
Bydd ein hailddatblygiad yn gwneud ein hadeilad yn agored ac yn hygyrch. Bydd llefydd addas i bwrpas yn ein galluogi i gynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu, addysgu a newid cymdeithasol, tra bydd y potensial ar gyfer cynyddu incwm a enillir yn helpu i ddiogelu mentrau mynediad.
Adeilad sy’n helpu ac yn gwella
Bydd cyfleusterau arbenigol newydd a gardd synhwyraidd yn darparu llefydd addas i bwrpas ar gyfer iechyd a lles. Wedi'u cysylltu â'r gofod gwyrdd tu allan gydag ardaloedd ar gyfer chwarae, tyfu a seibiant, bydd yr ardaloedd hyn ar agor i bawb.
Adeilad gwyrdd blaengar
Gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, gyda phympiau gwres ffynhonnell aer yn cymryd lle boeleri nwy, ffitiadau ynni-effeithlon, dŵr glaw wedi'i gynaeafu ar gyfer toiledau a gwyrddni integredig ar y waliau a'r to allanol ar gyfer inswleiddio a bioamrywiaeth, nod y gwaith adnewyddu yw bod yn brosiect arddangos proffil uchel ar gyfer theatr gynaliadwy, gan ysbrydoli addasiad mewn lleoliadau eraill a thrawsnewid y ffordd rydyn ni'n gweithio, yn creu celf, ac yn ymgysylltu â'n cymunedau.