Open Casting - Under Milk Wood
Galwad Castio Agored ar gyfer actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol yng Nghymru.
Mae Theatr Clwyd yn cynnal galwad agored i actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol Cymreig / sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ar gyfer cynhyrchiad teithiol newydd mawr fel rhan o Bartneriaeth Craidd.
Hoffwn gwrdd ag actorion Cymreig ac actorion sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n uniaethu fel actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol ar gyfer ein chynhyrchiad yn 2026 o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, wedi’i gyfarwyddo gan Kate Wasserberg, y cyntaf o bedwar cynhyrchiad fel rhan o bartneriaeth Craidd.
Rydym am wahodd actorion i wneud cais am le mewn cyfres o glyweliadau sy’n cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol yn 2025:
Mawrth 11 ym Mhontio ym Mangor
Mawrth 14 yn TÅ· Pawb yn Wrecsam
Mawrth 18 & 19 yn Theatr y Sherman, Caerdydd
Mawrth 20 yn y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin
Er gwybodaeth, mae dogfen hawdd ei ddeall ar waelod y dudalen yn yr adran 'adnoddau'.
Sut i Ymgeisio
I wneud cais cliciwch ar y botwm isod i gwblhau'r ffurflen.
Sylwch mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 28 Chwefror, 12pm.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Craidd?
Cydweithrediad rhwng pum sefydliad yng Nghymru yw Craidd: Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, Theatr y Torch, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ei chenhadaeth yw gwella cynrychiolaeth prif ffrwd ar gyfer a gyda chrewyr theatr Fyddar, anabl a niwrowahanol ledled Cymru. Mae hefyd yn gobeithio sbarduno newid cadarnhaol yn y sefydliadau partner cysylltiedig yn ogystal â'r sector theatr ehangach.
Roedd cam cyntaf y cydweithredu’n cynnwys archwiliad o bob un o’r sefydliadau, sgyrsiau sector, hyfforddiant helaeth, a diffinio map ffordd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’r Cyfarwyddwr dros Newid, Sara Beer, yn arwain prosiect Craidd gyda’r pum Asiant dros Newid sydd wedi’u lleoli yn lleoliadau Craidd ledled Cymru.
Y rhain yw -
Cathy Piquemal (Theatr Clwyd), Jonny Cotsen (Theatr y Sherman), Bridie Doyle-Roberts (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru), Angharad Tudor (Theatr y Torch) a Nikki Hill (Pontio).
Ochr yn ochr â’r rhaglen o newid, bydd pob sefydliad yn creu cynhyrchiad teithiol prif lwyfan yn cynnwys talentau Byddar, anabl, a / neu niwroamrywiol.
Bydd Theatr Clwyd yn cynhyrchu’r sioe gyntaf yn 2026 ac yn teithio i Theatr y Sherman, Celfyddydau Pontio, a Theatr y Torch.
Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?
Bydd y diwrnod yn cynnwys gemau hygyrch ac ymarferion cynhesu, gweithdy symud ac amser un i un gyda Chyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, Kate Wasserberg, sy’n cyfarwyddo Under Milk Wood.
Mae croeso i ymgeiswyr gael clyweliad yn Saesneg neu IAP (BSL)
Beth am fynediad?
Byddwn yn darparu cymorth mynediad ac yn gwneud y diwrnod mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys ymateb i amodau / ceisiadau unigol. Rydym yn gwybod bod gofynion mynediad yn amrywio i bawb. Byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i deimlo'n gyfforddus a gwneud eich gwaith gorau.
Beth fydd yn digwydd yn y clyweliad agored?
Byddwn yn gweld grwpiau bach o bobl naill ai mewn sesiwn bore neu brynhawn. Mae’r llefydd yn gyfyngedig iawn gan ein bod eisiau gofalu am bawb yn y ffordd orau y gallwn. Bydd cyfuniad o rai gemau grŵp a gweithdy symud, ochr yn ochr â chlyweliad un i un gyda Kate Wasserberg a phobl greadigol eraill o leoliadau partner Craidd.
Sut gallaf i gymryd rhan?
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gwrdd ag unrhyw actorion Byddar, anabl a / neu niwrowahanol Cymreig neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a hoffai gymryd rhan. Er mwyn i ni eich helpu chi i wneud eich gwaith gorau, gofynnwn i chi gyflwyno eich CV actio proffesiynol neu ddolen Spotlight i ddechrau a nodi a ydych yn dymuno cael eich gweld yng Ngogledd neu Dde Cymru.
Cliciwch i ymgeisio: https://form.jotform.com/24357...
Ar ôl y dyddiad cau, os cewch eich dewis, byddwn yn cysylltu â chi gyda dyddiad ac amser ar gyfer eich clyweliad. Byddwn hefyd yn gofyn i chi naill ai gwblhau dogfen amodau ‘gweithio gyda mi’ neu anfon eich amodau mynediad presennol atom ni. Gallwch ddewis yr opsiwn sydd hawsaf i chi.
Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth fanylach am beth i'w baratoi ar gyfer y diwrnod. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei chyflwyno mewn fformat ysgrifenedig, ond bydd fformatau eraill ar gael ar gais.
A fyddaf yn gallu dod â fy mherson cymorth fy hun gyda mi?
Bydd Theatr Clwyd yn trefnu cymorth mynediad amrywiol ar draws amseroedd y clyweliad, ond rydym yn ymwybodol efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth un i un arnoch chi gydag unigolyn y gallwch ymddiried ynddo i gael mynediad i’r diwrnod. Byddwn yn trafod hynny gyda chi pan fyddwch yn gwneud cais.
Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu talu am unrhyw weithwyr cymorth un i un, bydd angen i chi drefnu a thalu am hyn.
Bydd Theatr Clwyd yn talu am ac yn trefnu bod digon o ddehonglwyr IAP (BSL), galluogwyr creadigol a disgrifyddion sain ar gael yn y gofod, gan gynnwys yn y sesiwn unigol os oes angen.
Beth os na allaf fynychu?
Os na allwch ddod ar y dyddiadau yma ond eich bod eisiau cael eich ystyried ar gyfer Under Milk Wood, rydym yn gobeithio y bydd cyfleoedd eraill i chi gael clyweliad.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â'r cynhyrchydd Jenny Pearce ar jenny.pearce@theatrclwyd.com gyda'ch CV.