Mae Theatr Clwyd yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein cynllun Awduron Preswyl hynod lwyddiannus ar gyfer 2024, mewn partneriaeth â Llyfrgell Gladstone.
Rydyn ni’n gartref i awduron yng Nghymru, yn cynnig amser a gofod i ysgrifennu o fewn cymuned o gyd-artistiaid heb y pwysau o ‘ddangos’ neu gynhyrchu rhywbeth. Rydyn ni’n cynnig cyfnodau preswyl sy’n gysylltiedig â’n cynyrchiadau mewnol fel bod awduron yn gallu dod i adnabod artistiaid eraill sy’n gweithio yma, treulio amser yn arsylwi ymarferion a datblygu syniadau mewn amgylchedd cefnogol. Rydyn ni eisiau i’r cyfnodau preswyl yma roi lle i artistiaid chwarae a chreu heb yr angen am ‘ganlyniadau’.
Mae'r cyfnod cyswllt yn cynnwys y canlynol:
- Bwrsari i dalu costau teithio, cynhaliaeth a threuliau
- Llety yn Llyfrgell Gladstone gerllaw (adeilad rhestredig Gradd I hardd a’r unig Lyfrgell Brif Weinidogol ym Mhrydain)
- Desg yn swyddfeydd Theatr Clwyd yng nghanol tref yr Wyddgrug
- Adborth dewisol ar unrhyw waith sydd ar y gweill
- Y potensial i ddychwelyd a gweithio gydag actorion ar unrhyw waith sydd ar y gweill. Bydd hyn gyda’r actorion ar y cynhyrchiad rydych chi’n gysylltiedig ag ef, unwaith y bydd y sioe yn agor (mae hyn yn benodol i’r cynhyrchiad rydych chi’n gysylltiedig ag ef ac ni fyddwn yn gallu cael cwmni actio arall i ddarllen y gwaith).
Mae hwn yn gyfle gwych i dreulio rhywfaint o amser yn ysgrifennu ac yn adlewyrchu ar eich ymarfer, i ni ddod i adnabod ein gilydd ac, os yw’n ddefnyddiol, i gael adborth ar eich gwaith. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i chi gynhyrchu unrhyw beth i ni ar ddiwedd y cyfnod cyswllt ac, yn yr un modd, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom ni i gynhyrchu'r gwaith. Ein gobaith ni ydi y bydd y cyswllt yma’n ddechrau ar berthynas gyda Theatr Clwyd a rhwydwaith o awduron a all alw ein theatr ni’n gartref
Mae'r rhaglen yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Llyfrgell Gladstone.
Cynyrchiadau a Dyddiadau:
Yn 2024, byddwn yn cynnig pedwar cyfnod preswyl sy’n gysylltiedig â’n cynyrchiadau mewnol. Bydd dau awdur ar gyfnod cyswllt gyda ni ar yr un pryd ar gyfer pob un o’r cyfnodau isod:
Constellations gan Nick Payne – Dydd Llun 15 Ebrill – Dydd Gwener 26 Ebrill 2024
Rope gan Patrick Hamilton – Dydd Llun 10 Mehefin – Dydd Gwener 21 Mehefin 2024