Helpu i wneud y byd yn lle hapusach y Nadolig hwn.

Mae Theatr Clwyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cydweithio unwaith eto, y tro yma i greu bocs o lawenydd Nadolig i blant agored i niwed yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gofyn i bobl gyfrannu bocsys esgidiau’n llawn eitemau lliwgar a hwyliog i helpu i wneud y byd yn lle gwell i bobl ifanc y Nadolig hwn.


Sut mae dechrau arni?

Rhaid i chi gael bocs esgidiau (neu focs maint esgidiau!) – rhaid iddo gael caead (rhag i bethau syrthio allan) ac yn ddelfrydol cael ei addurno y Nadoligaidd, a gall fod yn hyfryd a phersonol neu gall fod dim ond neis a syml.

Ychwanegwch eich cyfarchion y tymor, neges o gefnogaeth neu ysbrydoliaeth.

Pethau y gallech eu hychwanegu:

  • Llyfrau lliwio, pennau blaen ffelt, creonau a teganau synhwyraidd
  • Danteithion a/neu fyrbrydau iach – melysion, creision, siocled, resins, bariau ffrwythau ac ati ... (Cofiwch wneud yn siŵr bod y dyddiad yn addas ar bopeth a’u bod yn eu pecynnau gwreiddiol gyda'i restr llawn o gynhwysion)
  • Teganau a gemau – (rhaid i bob darn fod yn y bocs!)
  • Celf a chrefft
  • Llyfrau, cylchgronau a comics
  • Hadau a photiau planhigion (bychain)
  • Addurniad Nadolig

Ychwanegwch label oedran at y bocs (fel ei fod yn mynd i blentyn oedran cywir!) gall fod ar gyfer unrhyw oedran o 16 oed i fyny. Cofiwch ein bod yn aml yn brin o roddion i bobl ifanc yn eu harddegau (yn enwedig bechgyn yn eu harddegau!)

Peidiwch â selio’r bocs fel ein bod yn gallu ei wirio un waith cyn ei anfon allan!


Ble rwyf yn danfon fy mocs?

Gallwch ollwng eich bocs yn ein swyddfeydd yn Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug, CH7 1AP ar y dyddiau/amserau canlynol.

  • Dydd Llun 9fed o Ragfyr – Dydd Iau 12eg o Ragfyr, 9yb-7yh
  • Dydd Sadwrn 14eg o Ragfyr, 9-1:30yh

Ffoniwch y seiniwr a byddwn yn cwrdd â chi.


Thank you for your help!