Wythnos Ceiswyr Noddfa 2024

Beth Sy'n Digwydd?


Dydd Mawrth 18fed Mehefin 1.30 - 3pm

Sesiwn canu i Ferched dan arweiniad y cerddor o Gymru, Lynwen Haf Roberts. Bydd Lynwen yn eich arwain chi ar siwrnai gerddorol gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd.

Lleoliad: Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP


Dydd Mercher 19eg Mehefin 10 - 11.30am

Sesiwn hwiangerddi cyn ysgol - gyda Lindy o Singing Mamas - mae Lindy yn defnyddio galwad ac ymateb i feithrin cysylltiad, hwiangerddi hyfryd a chanu o'r enaid, mae croeso i ferched gyda neu heb fabis.

Lleoliad: Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP


Dydd Iau 20fed Mehefin 7 - 8.30pm

Sesiwn Dawnsio Creadigol gyda chyswllt dawns Theatr Clwyd, Angharad Jones, dim angen profiad, croeso i bob oedran - gwisgwch ddillad cyfforddus.

Lleoliad: Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP

I ARCHEBU CLICIWCH YMA


Dydd Gwener 21ain Mehefin 1.30 - 3pm

Sut i wneud dol Wcreinaidd. Dewch i ddysgu sut i wneud dol Wcreinaidd draddodiadol - bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu.

Lleoliad: Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP

I ARCHEBU CLICIWCH YMA


Dydd Gwener 21ain Mehefin

Ymunwch â ni yn Eglwys Rivertown am noson o gerddoriaeth a bwyd o bedwar ban byd. Drysau'n agor am 6pm.

Lleoliad: Eglwys Rivertown, Ffordd Caer, Shotton CH5 1BX.

I ARCHEBU CLICIWCH YMA