
Helo, Mark Ellis ydw i - dwi'n gweithio cefn llwyfan fel Technegydd Llwyfan.
Cefais fy hyfforddi gan Theatr Clwyd flynyddoedd maith yn ôl, a phenderfynais adael fy swydd gyda chwmni cyfreithiol a dychwelyd i'r theatr.
Fel rhan o fy rôl yn y theatr rwy'n adeiladu setiau, perfformio newidiadau i'r olygfa a hefyd rigio a hedfan y golygfeydd.
Dwi'n mynd i ddangos gam wrth gam sut y bu i ni osod y set Home, I'm Darling i mewn i'r Theatr Anthony Hopkins yn 2019.
"It was amazing to put together - like a huge doll's house!"
Dwi wedi cynnwys llawer o iaith dechnegol yma i chi, ond rhag ofn nad ydych yn gwybod beth mae'r termau i gyd yn eu golygu:
Booms - bariau scaffold wedi eu cysylltu â'i gilydd i wneud fframiau neu standiau i osod pethau arnynt.
Borders yw darnau mawr du o ddefnydd 16m x 3m sydd yn hongian o fariau i orchuddio'r set neu'r bariau goleuo.
Masking - sy'n cael ei ddefnyddio i orchuddio beth sy'n mynd ymlaen tu ol i'r set fel arfer.
Up and downers - bariau sydd yn mynd i fyny ac i lawr y llwyfan yn hytrach nac ar draws.

Ar ôl gweld bocs model y cynllunydd byddwn yn cael cynllun graddfa i weithio oddi wrtho.

Ar ôl gweld bocs model y cynllunydd byddwn yn cael cynllun graddfa i weithio oddi wrtho. Mae’r to wedi cael ei rigio ymlaen llaw ac mae’r gwifrau yn eu lle ar gyfer yr ail gam.

Fe allwch chi weld yma sut oedd yn edrych cyn i ni adeiladu adran y llawr cyntaf. Mae hwn yn dangos to set 'Home, I'm Darling' wedi’i rigio.

Dyma olygfa o’r cefn gyda’r to yn ei le. Sylwch ar y simnai ar y dde ar y llwyfan!

Dyma’r olygfa o’r tu blaen gyda’r gwely a’r bath.

Mae adran y llawr cyntaf wedi cael ei chodi ac mae’r fframwaith cynnal wedi cael ei adeiladu oddi tanodd.

Mae’n dechrau dod at ei gilydd nawr a’r ffitiadau a’r gosodiadau’n mynd i mewn. Edrychwch ar y chwith ar y llwyfan ac fe welwch chi’r gegin yn dechrau ffurfio...

Nawr bod y brif set wedi’i hadeiladu gall y technegwyr goleuo a sain ddechrau ar eu gosodiadau. Mae bŵm goleuo wedi’i rigio oddi ar y llwyfan ar y dde. Edrychwch ar yr holl geblau hefyd!

Dyma olygfa o’r llawr fflïo. Rydyn ni wedi fflïo borderi i mewn a’r llenni gyda rhaff halio ar eu cefn. Os edrychwch chi’n ofalus fe allwch chi weld bod y goleuo’n digwydd.

O edrych ar gefn y set nawr i fyny’r llwyfan, gallwch weld y masgio a’r grisiau sydd wedi cael eu hadeiladu er mwyn cael mynediad i’r llawr cyntaf. Mae byrddau props yn dechrau ymddangos hefyd.

I lawr y llwyfan o’r border cyntaf fe allwch chi weld graddfa’r set eto o’r llawr fflïo.

Y set wedi’i chwblhau gyda goleuadau, ffitiadau a dodrefn.
Am fwy o deithiau cefn llwyfan gyda Mark, ewch i'w flog personol yma: https://markellisstagetech.blogspot.com/
Roedd Home, I’m Darling gan Laura Wade yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Clwyd a'r National Theatre. Y cynllunydd oedd Anna Fleischle.




