Dawns

Dewch i symud, ymestyn, pirouetio a throi gyda sesiynau symudiadau a dawnsio!
Byddwch yn barod i wisgo’ch esgidiau dawnsio pob dydd Mercher wrth imi eich tywys trwy furfiau gwahanol o ddawns y gallech eu gwneud adref. Byddaf hefyd yn postio gwahanol ddawnsfeydd y gallech eistedd yn ôl a’u mwynhau eu gwylio.

Angharad Jones yw Cyswllt Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd yn arbenigo mewn dawns. Yn berfformiwr a hwylusydd profiadol sydd wedi tyfu i fyny ar arfordir Gogledd Cymru, hyfforddodd Angharad yn Ballet West mewn ballet clasurol a dawns gyfoes ac mae'n gyn-aelod o Ddawns Cenedlaethol Ieuenctod Cymru.