Dewch i gael haf o hwyl gyda ni yn...

Theatr Clwyd, Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth NEWYDD ac yn bendant gwneud ffrindiau newydd a magu hyder. Diddordeb yn y celfyddydau, cerddoriaeth, dawns, drama…

….Bydd pob diwrnod yn wahanol. Gall un diwrnod gynnwys grefftau, dawns, creu cerddoriaeth, profiadau newydd, darganfod beth yw theatr a llawer o hwyl! Byddwch yn gweithio gyda thîm anhygoel o artistiaid drwy gydol yr haf a fydd yn gwneud y profiad yma o theatr yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.

Efallai eich bod chi eisiau dod i weld beth sydd gennym ni i'w gynnig.

Iau 8 Awst | 11am - 4pm

Gwener 9 Awst | 11am - 4pm

Llun 12 Awst - Gwe 16 Awst | 11am - 4pm

Llun 19 Awst - Iau 22 Awst | 11am - 4pm

Oedran:- 5 i 14 oed

Cliciwch yma i gofrestru


This year we are only able to facilitate 25 places. Due to this, we are welcoming young people that have not had this opportunity before.

Please note that by registering, there is no guarantee that your young person will be offered a space, and places will be allocated on a first-come-first serve basis.

If your young person has attended Summer Hubs before, we would encourage you to fill out the form and your young person will be put on the waiting list. If a place becomes available, we will notify you of this.


Cwestiynau Cyffredin

Beth mae Haf o Hwyl gyda Theatr Clwyd yn ei gynnwys? Eleni byddwn yn cynnal ein rhaglen yn Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug! Dros gyfnod o ychydig ddyddiau a phythefnos, byddwn yn cynnal gweithgareddau dyddiol dan arweiniad ein tîm gwych ni o artistiaid sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ifanc. Gall un diwrnod gynnwys crefftau, dawnsio, creu cerddoriaeth newydd, ysgrifennu creadigol, theatr dechnegol a llawer mwy o weithgareddau creadigol. Beth am roi cynnig ar rywbeth NEWYDD? Byddwch yn bendant yn gwneud ffrindiau newydd ac yn magu hyder yn ystod y tair wythnos. Rydyn ni’n credu mewn creu rhaglenni gyda phobl ifanc yn ganolog iddyn nhw a byddwn yn teilwra’r prosiect yma ar gyfer a gyda eich person ifanc. Mae'r prosiect yma mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn mae'n ei gynnwys, anfonwch e-bost atom ni: hubs@theatrclwyd.com

Pryd mae'r gweithgaredd yn cael ei gynnal? 11 i 4pm bob dydd

Oes bwyd yn cael ei ddarparu? Byddwn yn darparu bwyd iach bob dydd i bob person ifanc! Bydd hyn yn ein gofal ni i gyd. Cofiwch gynnwys unrhyw ofynion o ran deiet ar y ffurflen gofrestru.

Oes opsiynau cludiant ar gael? Mae cludiant ar gael o dan amgylchiadau arbennig.

Oes opsiynau ar gyfer cefnogaeth un i un? Oes, mae’n bwysig bod pawb yn gallu cael mynediad i’r cynllun. I drefnu darpariaeth un i un ar gyfer person ifanc, cysylltwch â: heathergerrard@flintshire.gov.uk

Sut ydw i'n cofrestru?Cliciwch yma i gofrestru. Yn ddelfrydol, mae angen i weithiwr cymdeithasol y person ifanc lenwi’r ffurflen atgyfeirio.

Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint

Find out more...