Galwad Agored Celf Gyhoeddus - Theatr Clwyd: Cwestiynau Cyffredin
Rydw i'n artist ond nid yw'r un o'r galwadau agored yma’n berthnasol i fy arfer i. A gaf i gynnig prosiect gwahanol?
Rydym yn awyddus iawn i bobl feddwl yn greadigol am sut gellir dehongli’r galwadau agored yma, a byddem wrth ein bodd yn clywed gan artistiaid o ystod eang o gefndiroedd a disgyblaethau. Wedi dweud hynny, mae briffiau penodol yr hoffem i bobl ymateb iddynt, ac un elfen o’r broses ddewis fydd asesu pa mor dda y mae cynnig yn ymateb i themâu a nodau’r comisiwn.
Nid ydym ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau am brosiectau y tu allan i gwmpas y tair galwad agored yma. Fodd bynnag, byddwn yn cyhoeddi un alwad agored arall o leiaf am gomisiwn celf cyhoeddus y flwyddyn nesaf, felly os nad ydych yn teimlo bod y prosiectau hyn yn gwbl addas ar eich cyfer chi, cadwch lygad ar wefan Theatr Clwyd am gyfleoedd yn y dyfodol.
Ym mha iaith y gallaf gyflwyno fy nghais?
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
Rydw i wedi fy lleoli dramor. A allaf wneud cais?
Gall unrhyw un sydd â'r hawl i weithio yn y DU wneud cais. Hynny yw: rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid rhyngwladol, cyn belled â bod yr ymgeiswyr wedi cael – neu’n gallu cael – caniatâd perthnasol i weithio yn y DU. Mae gennym gyllideb fechan i gyfrannu at gostau teithio artistiaid yn ystod y prosiect, a gall hyn gynnwys teithio rhyngwladol. Cofiwch mai un o themâu’r prosiect hwn yw cynaliadwyedd, yn unol â tharged ehangach y theatr o fod yn lleoliad sero net o ran carbon, felly byddai angen i gynigion a fyddai’n gofyn am deithiau awyr helaeth egluro sut byddai effaith hyn yn cael ei lliniaru.
Pam fod angen i mi gyflwyno CV a geirda?
Mae CV a geirda yn ein helpu ni i gael ymdeimlad o'ch gwaith proffesiynol chi, eich diddordebau a'ch gallu i droi syniad yn ganlyniad gorffenedig. Ond gallwn eich sicrhau ein bod yn croesawu ceisiadau gan bobl ym mhob cam o'u gyrfa; byddem wrth ein bodd yn clywed gan artistiaid ar ddechrau eu gyrfa yn ogystal ag ymarferyddion mwy profiadol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhan yma o'r cais, anfonwch nodyn atom a byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.
Oes angen i mi gyflwyno cynnig prosiect manwl yn y cais cychwynnol?
Nac oes. Ar gyfer cam cyntaf y broses ymgeisio, y cyfan rydym yn chwilio amdano yw datganiadau o ddiddordeb. Yn eich llythyr mynegi diddordeb gallwch ddangos pam y byddech yn ymgeisydd addas ar gyfer y prosiect yn seiliedig ar eich cyfres o sgiliau, profiad a / neu’r dulliau / prosesau rydych yn eu defnyddio, ond nid oes angen syniad prosiect penodol ar hyn o bryd.
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cewch eich gwahodd i baratoi dyluniad cysyniad ar gyfer eich cynnig, a byddwch yn derbyn ffi o £750 am y gwaith hwn.
Sut byddwch chi'n penderfynu pa brosiectau i'w dewis?
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am y broses ddewis a'r meini prawf asesu yn nogfennau’r alwad agored, sydd ar gael i'w lawrlwytho (yn y Gymraeg ac yn Saesneg) ar y dudalen we yma.
Yr ateb byr(rach) yw, unwaith y bydd y dyddiad cau wedi bod, bydd rhestr fer yn cael ei dewis gan Bwyllgor Llywio Celf Gyhoeddus, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Theatr Clwyd, studio three sixty a’n penseiri Haworth Tomkins, yn ogystal ag artistiaid, awduron, cynrychiolwyr cymunedol a chynrychiolwyr celfyddydau annibynnol eraill. Bydd y pwyllgor yn ystyried pa mor dda y mae cais wedi ymateb i’r briff, ymarferoldeb y cynnig, ac ansawdd a pherthnasedd gwaith blaenorol yr ymgeisydd.
Ydych chi’n derbyn ceisiadau gan grwpiau yn ogystal ag unigolion?
Ydym! Mewn gwirionedd rydym yn annog hynny. Byddem wrth ein bodd yn derbyn ceisiadau gan dimau sy’n gweithio ar draws a rhwng disgyblaethau, ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn syniadau am brosiectau sy’n dod ag ymarferyddion o amrywiaeth o gefndiroedd a safbwyntiau at ei gilydd.
Rydyn ni'n meddwl gwneud cais fel grŵp. Allwn ni gyflwyno CV, portffolio, tystlythyrau (ac ati) ar y cyd neu oes angen i ni gyflwyno dogfennau ar wahân ar gyfer pob aelod unigol o'r tîm?
Os ydych chi wedi gweithio gyda’ch gilydd o’r blaen, cyflwynwch ddogfennau ar y cyd a geirda ar gyfer eich gwaith fel grŵp. Os nad ydych chi wedi gweithio gyda’ch gilydd o’r blaen, gallwch gyflwyno dogfennau ar y cyd yr un fath ond byddai’n ddefnyddiol darparu ychydig o wybodaeth am bob aelod o’r tîm a sut rydych chi’n rhagweld y byddai’r cydweithio’n gweithio. Mae posib cynnwys hyn yn eich llythyr mynegi diddordeb.
Os byddwn yn gwneud cais fel grŵp, oes angen i’r prosiect fod ag artist “arweiniol”?
Nid oes angen i’r prosiect gael arweinydd mewn ystyr artistig, ond byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi prif berson cyswllt, at ddibenion gweinyddol yn unig.
A allaf wneud cais am fwy nag un alwad agored?
Gallwch, mae croeso i chi gyflwyno cais i fwy nag un o'r galwadau agored. Fodd bynnag, dim ond un cais gan bob person ar gyfer pob galwad agored y gallwn ei dderbyn.
A yw'n costio unrhyw beth i gyflwyno cais?
Na, mae am ddim.
Pwy sy'n cyllido hyn?
Mae’r prosiect yn cael ei gyllido drwy ddeddfwriaeth ‘Canran Celf’ Cyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o gynlluniau adfywio ehangach Theatr Clwyd.