Y Stori
1922. Yng Ngwladwriaeth Efrog Newydd. Jazz, glam a speakeasies.
Mae Nick Carraway yn rhentu tŷ bach wrth ymyl plasty anhygoel Jay Gatsby y miliynydd dirgel. Mae bywyd ar y dechrau yn arferol iawn i Nick, mae’n ymweld â’i gyfnither Daisy a’i gŵr Tom ac yn dechrau perthynas â dynes ifanc ddeniadol o’r enw Jordan. Wrth iddo ddarganfod bod Tom mewn perthynas gyda dynes arall, mae’n derbyn gwahoddiad annisgwyl i un o bartïon enwog ei gymydog Jay Gatsby sydd yn troi ei fywyd ai ben i lawr.
Yn llawenydd y parti, mae Nick yn cyfarfod â’i westeiwr, Jay Gatsby, ac mae’n ymddangos bod ganddynt lawer yn gyffredin – roedd y ddau yn gwasanaethu yn yr un adran yn ystod y Rhyfel - a chafodd Gatsby, trwy ddamwain a hap, gyfarfod â Daisy a disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi. Mae Nick yn cael ei berswadio i drefnu aduniad rhwng Gatsby a Daisy sydd yn cychwyn perthynas cariadus nwydus. Ond gyda chelwydd ac amheuaeth yn datblygu o fewn y grŵp o ffrindiau, mae’n annhebygol iawn bydd diweddglo hapus. Pwy fydd yn sefyll ar ddiwedd y dydd, a phwy fydd ar ei golled, a beth fydd yn dod o Gatsby ei hun
Y Sioe
Mae’r sioe yn gyfranogol, sy’n golygu o’r foment y byddwch chi’n camu i mewn i Blasty Gatsby y byddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi cael eich cludo’n ôl i ferw’r 1920au.
Efallai y byddwch chi’n dechrau gyda choctel wrth y bar cyn i’n cast ni eich croesawu chi i fyd F. Scott Fitzgerald, The Great Gatsby.
Wedyn, mae i fyny i chi. Efallai y byddwch chi’n helpu Gatsby ei hun i benderfynu pa siwt i’w gwisgo ar gyfer y parti, neu hyd yn oed yn dysgu dawnsio gyda Daisy a Jordan.
‘Fyddwch chi ddim yn cael eich gorfodi i wneud unrhyw beth ac os yw’n well gennych chi wylio o’r llinell ochr, ‘fydd dim ots gan neb.
Cast
Siobhan Bevan
MyrtleJimmy Chambers
GeorgeJack Hammett
Wyndham BrandonRichard McIver
GatsbyTroy Marcus Richards
TomSeren Vickers
JordanBethan Rose Young
Daisy
Agor oriel o luniau
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Events/2023/2186528/Great-Gatsby-Mold-23-51_d718a8182055d984ae9760ddf8cec4fb.jpg)
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Events/2023/2186529/Great-Gatsby-Mold-23-53_d718a8182055d984ae9760ddf8cec4fb.jpg)
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Events/2023/2186530/Great-Gatsby-Mold-23-96_d718a8182055d984ae9760ddf8cec4fb.jpg)
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Events/2023/2186531/Great-Gatsby-Mold-23-125_d718a8182055d984ae9760ddf8cec4fb.jpg)
Tîm Creadigol
F Scott Fitzgerald
Ysgrifenwyd ganAlexander Wright
Addaswyd ganAmie Burns Walker
CyfarwyddwrFiona Kingwill
Cyfarwyddwr CyswlltHeledd Rees
Cynllunydd Set a GwisgoeddHolly Beasley-Garrigan
CoreograffyddAlex Wingfield
Cyfarwyddwr CerddorolRachel Sampley
Cynllunydd GoleuoPhil Grainger
Cynllunydd SainLucky 13 Action
Cyfarwyddwr YmladdJuliette Manon Lewis
Cyfarwyddwr CynorthwyolPolly Jerrold
Cyfarwyddwr CastioMary Howland
Hyfforddwr Acen a ThafodiaithBayley Turner
Ymgynghorydd Diogelu, Cynhwysiant a ChydsyniadNoah Ehrhardt
Wigs, Gwallt a CholurCassey Driver
Rheolwr Llwyfan y CwmniClelia Crawford
Dirprwy Reolwr LlwyfanEmma Hardwick
Rheolwr Llwyfan CynorthwyolWes Bennett-Pearce
CynhyrchyddJim Davis
Rheolwr CynhyrchuHester Evans
Hwylusydd Lles
Cyd-grëwyd yn wreiddiol gan Michael Lambourne, Phil Grainger, Hannah Davies, Amie Burns Walker, Holly Beasley-Garrigan, Oliver Tilney, Thomas Maller
Gyda diolch i
- The Dolphin Hotel
- Moira Stanley, Rhodd y piano
- Eloise Hawes & Leah Foulkes, Ar Leoliad o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Penderyn Distillery
- Ashley Tilbury, Rheolwr Llwyfan ar Leoliad
- Royal Exchange Theatre, Manchester, Liverpool Playhouse, Birmingham Repertory Theatre
- Tîm Theatr Clwyd
- Diolch i’n holl gefnogwyr ni.
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Events/2023/Summer-Autumn-Season/Gatsby/2182381/SAW-Eng_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.png)
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Events/2023/Summer-Autumn-Season/Gatsby/2182382/SAW-Welsh_d81014be75156f7fb16123a6b350b4d2.png)
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Capital/Microsite/Gallery/1397639/Microsite-Gallery-Images-Architects_33bf85b9331a00b830e1827a33e1a495.jpg)
Ailddatblygu Theatr Clwyd
Gyda’ch cefnogaeth chi gyda’n gilydd gallwn lwyfannu’r 40 mlynedd nesaf